Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hun, a throdd Robert i fyned yr un ffordd a Gwilym, a gwelodd Gruffydd fod golwg truenus arno yntau fel ar ei frawd. Dilynodd Ddafydd drachefn am beth amser, ond yr oedd y ffordd wedi myned yn mwy garw nag erioed, a gwelodd Gruffydd Ddafydd hefyd yn sefyll ac yn troi yn ol tua'r bwthyn lle yr oedd y ddau arall erbyn hyn, mae'n debyg, wedi cyrraedd.

Ar ol iddo weled y diweddaf yn rhoi y gwaith o geisio Bronwen i fyny, dechreuodd y daith fyned ym fwy garw fyth i Ruffydd. Yr oedd y nos yn agoshau, ac yr oedd y llinell o bridd coch wedi myned yn llinell o dân coch, a disgleiriai o’i flaen gan belled ag y gallai ganfod. Clywai ruadau y bleiddiaid a’r eirth, gwelai eu llygaid yn gwibio trwy y coed, ond ni ddeuent yn agos i’r circle goch. Bob cam oedd yn ei roddi yr oedd ol ei draed yn goch ar y ddaear gan fel oedd y cerrig yn tynnu y gwaed ohonynt.

Wedi iddo ddilyn y llinell o dân drwy y nos, nes torrodd y wawr, cafodd fod y coed wedi myned yn deneuach, a’i fod yn ymyl gwastadedd llydan. Gwelai y llinell goch yn rhedeg ar ei draws, a chychwynnodd ar ei hol, ac fel yr oedd yn teithio cyfododd yr haul a thaflai ei belydrau tanbaid ar y gwastadedd. Llifai y chwys i lawr gwyneb Gruffydd, ac yr oedd bron a llesmeirio oherwydd nad oedd chwa o wynt yn dod o un cyfeiriad i ddofi ychydlg ar y gwres. Yr oedd y ddaear yn dywodlyd, ac yr oedd y teithiwr fel yn cerdded ar dân gan mor boeth oedd y tywod. Nid oedd coeden yn unman, na dim i atal pelydrau yr haul. Yr oedd llygaid Gruffydd wedi syllu cymaint ar y llinell o bridd coch fel yr oedd yn tybied ei fod yn gweled llinell felly ym mhob cyfeiriad yr edrychai, ac