Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BLODAU ARIAN.

I. HEULWEN A CHWMWL.

YSTALWM iawn, iawn, mewn tref yng ngwlad Rhywle, trigai gŵr cyfoethog. Yr oedd ganddo wraig a thair o ferched, ac yr oeddynt yn byw yn un o dai harddaf y dref.

Cathrin, Elin, a Gwen, oedd enwau y tair chwaer. Yr oedd Cathrin ac Elin yn efeilliaid, ac yn hŷn na Gwen o ddwy flynedd. Ac yr oeddynt yn ddedwydd iawn i gyd yn eu ty gwych. Ond nid oedd yr ieuengaf o’r chwiorydd yn cael ei dedwyddwch yn yr un pethau a’r ddwy arall. Ymhyfrydai Cathrin ac Elin mewn gwisgo eu hunain mewn dillad gwychion a gemau drudfawr, a harddu eu hunain ymhob modd; ac yna elent allan i gyngherddau a chynhulliadau eraill oedd yn cael eu cynnal er mwyn pleseru pobl y dref. Ac yno byddent yn tynnu sylw yr edrychwyr trwy wychder eu dillad, a disgleirdeb eu gemau, a thrwy eu gwallt melynaur a’u llygaid gloew, oedd yr un lliw a’r blodau dyfai ar ochr y ffordd. Ac yr oeddynt yn ymfalchio am fod pawb yn eu hedmygu.

Ond yr oedd Gwen yn wahanol. Nid oedd yn hoff o fyned i’r lleoedd hynny, a theimlai yn anedwydd pan fyddai llawer yn edrych arni. Dywedai y bobl fyddai yn ymgasglu at eu gilydd fel hyn i bleseru eu hunain, mai y ddwy chwaer hynaf oedd y prydferthaf. Ond yr oedd eraill nad aent i’r cwmni yma yn dweyd fod Gwen yn rhagori yn fawr ym mhrydferthwch ei gwynepryd ar Cathrin ac Elin; oherwydd yr oedd ei llygaid yn fwyn fel sêr yr haf, a chyffyrddiad ei dwylaw yn dyner fel y goleuni. Ni wisgai ddillad gwych yn awr, ni roddai em ar ei mynwes