Tudalen:Chwalfa.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyntaf oll, "i'r cyfarfod hir-ddisgwyliedig yn Llechfaen newid dim ar y sefyllfa." A gwyddai fel y darllenai ymlaen mai gwir y gair. Rhoes Robert Williams unwaith eto grynodeb clir o'u ceisiadau-hawl i'w Pwyllgor, cael y dynion a drowyd ymaith wedi'r streic ddiwethaf yn ôl i'r chwarel, defnyddio'u hawr ginio heb ymyrraeth, sicrwydd cyflog, dileu trefn y contracts," gwell had yn ymddygiad amryw o'r swyddogion, mynd yn ôl gyda'i gilydd pan ddeuai terfyn yr helynt-a darllenodd bellebron o bob rhan o'r De ac o Raeadr a Lerpwl ac Ashton-in-Makerfield a Manceinion a lleoedd eraill, pob un yn mynegi penderfyniad cryf y dynion ar wasgar a'u ffydd yn noethineb y Pwyllgor. Yna, wedi i amryw areithio, rhai yn ddwys a phwyllog, rhai yn uchel a thanbaid, cyflwynodd Edward Ifans y prif benderfyniad a phasiwyd ef yn unfrydol. Canwyd " O fryniau Caersalem . . . " gydag arddeliad, ac yna troes y dorf yn dawel tua'u cartrefi. Gwelai Idris ei dad yn dringo Tan-y-bryn, a'i ysgwyddau'n crymu tipyn fel pe dan faich ei bryder, a'i wyneb tenau, llinellog, yn welw wedi i gyffro'r cyfarfod fynd heibio. A gwelai ei fam, cyn gynted ag y clywai hi sŵn troed ei gŵr tu allan i'r drws, yn tywallt dŵr ar y tebot ac yn brysio i dynnu'r gadair freichiau at ben y bwrdd. Eisteddent wedyn wrth eu swper plaen, a thu ôl i'w siarad ac i'w meddyliau, mewn huodledd mud, y cadeiriau gwag, heb chwerthin Megan na myfyrdod Dan na pharabl bachgennaidd Llew. Aethai Gwynfa" yn bur dawel erbyn hyn.

Cyrhaeddodd "Y Gwyliwr" y Sadwrn ar ôl y cyfarfod, a darllenodd Idris ef y prynhawn hwnnw. Yna, ar ôl te, trawodd y papur yn ei boced i fynd ag ef i dŷ Dic Bugail. Yr oedd ar gychwyn pan alwodd Jerry O'Driscoll.

"Well, Idris, my boyo, if it's a house ye're wantin', I've got it for ye."

"Oh! Where?"

"Next door to me. Pleasant Row' they call it, the perishin' liars. Divil a bit pleasant it is, but you can't go pickin' and choosin' these days, can you now? Ike James, the landlord, is a great pal of mine, and if it's Jerry O'Driscoll that's askin' him for the house, then it's Jerry O'Driscoll will be havin' it."

"But I've been promised one of the new houses on the Twyn, Jerry, and they'll be ready by the end of the month."