Tudalen:Chwalfa.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwarddodd y Gwyddel. Begorra, at the rate they're goin' at 'em, it's by the Christmas after next they'll be finished. Workin' on the school playground down on the old Common, that's what I saw those builders doin' this week. Left the new houses to finish themselves off. So if you want a place till they're ready, Idris my boy, you say the word. Don't you be rushin' with your answer now. Take your time to think over it. I'll nip round to your heading Monday snap-time. Ay, Ike and me are as close as twins."

Diolchodd Idris iddo, ac aeth Jerry ymaith i gyfarfod Ike James ac eraill yn y Crown.

"Na'n wir, Idris," meddai Myfanwy Jenkins pan soniodd ef am y peth wrthi. "Mae'n well i chi aros ticyn eto nes bydd y tai newydd wedi'u cwpla'. Mae Pieasant Row yn rhy agos i'r hen afon 'na."

Ac ategwyd ei geiriau gan ei gŵr. "'Wy'n cofio'r afon 'na'n cwnnu un gaea', meddai, ac yn llifo mewn i dai Pleasant Row. 'Odych chi'n cofio, Myfanwy? Y flwyddyn ganwyd Ieu oedd hi, ontefa?"

"Ond dim ond am ryw fis ne' ddau y baswn i'n byw yno," dadleuodd Idris. "Mi fydda' i'n symud i'r tŷ newydd cyn gynted ag y bydd o'n barod. 'Roedden' nhw wedi addo'u gorffen nhw cyn diwadd y mis 'ma, ond, yn ôl Jerry, maen' nhw'n gweithio ar ryw iard-ysgol yr wsnos yma. Pam goblyn nad ân nhw ymlaen â'r gwaith?"

Caffed amynedd ei pherffaith waith," meddai William Jenkins. "Pidwch â mynd i Pleasant Row, Idris."

"Ddim am ryw fis ne' ddau?"

"Ddim o gwbwl. Gwedwch chi fod y tai newydd heb 'u cwpla' am dri mis arall a bod llifogydd yn dod i'r afon 'na . . . " Ie, wir, Idrus," meddai Mrs. Jenkins. "Ac 'wy' am i'ch gwraig chi gael argraff dda o Bentref Gwaith pan ddaw hi lawr. Mae'n bert lan ar y Twyn, ond ddim wrth yr afon 'na. 'S mo fi'n snob, ond 'charwn i ddim byw ar bwys rhai o'r bobol sy yn Pleasant Row."

Cytunodd Idris ac addawodd mai nâg a roddai i Jerry O'Driscoll ddydd Llun. Yna brysiodd i dŷ Dic Bugail i roi'r copi o'r "Gwyliwr" iddo. Bu raid iddo aros yno i sgwrsio a swpera, a phan soniodd wrthynt am y tŷ yn Pleasant Row, cynghorai Dic a Siân ef i wrthod y cynnig ar unwaith. Cyn troi tuag adref, aeth gyda'r fam a'r tad ar flaenau'i draed