i fyny'r grisiau i gael cip ar y plant yn eu gwelyau. Injan' oedd popeth gan y lleiaf, Huw, a chysgai ef â'i fraich am un fawr bren. Gwlithodd llygaid Idris wrth syllu arno: cofiai mai felly bob nos am fisoedd lawer y cysgasai ei fachgen yntau, Gruff, ac nad oedd wiw ei roi yn ei wely heb ei beiriant pren.
Yn lle mynd yn syth i Howel Street, crwydrodd yn hiraethus dan olau'r lloer i fyny'r Twyn am dro. Oedodd wrth y tai newydd ac yna mentrodd drwy ddrws di-ddrws y pedwerydd. Oedd, yr oedd llawer o waith arno etc ac ni fyddai'n barod am wythnosau. Twt, efallai mai codi bwganod yr oedd William Jenkins a'i wraig. Llifogydd? Hy, y flwyddyn y ganwyd Ieuan oedd hynny, ac yr oedd ef yn un ar bymtheg erbyn hyn. Y bobl? Wel, gwir fod yr hen Jerry'n un garw a swnllyd, ond petai gan bawb galon fel ei galon ef, 'fuasai'r hen fyd 'ma ddim yn un anodd byw ynddo. Yr awyrgylch? Fe ddeallai Kate mai dim ond am ysbaid y byddent yno, a gallai hi droi tŷ, hyd yn oed yn Pleasant Row, yn ddarn o Baradwys.
Ond fel y cerddai yn ôl i lawr y Twyn, gwanhâi'r dadleuon hyn ym meddwl Idris. Ia, William Jenkins a'i wraig a oedd yn iawn ni ddylai Kate a'r plant gael eu siomi ym Mhentref Gwaith drwy fyw, hyd yn oed am fis, mewn stryd dlawd a swnllyd fel Pleasant Row. Penderfynodd feithrin amynedd.
Bore Llun yn y gwaith yr oedd Dic yn fwy huawdl nag arfer. Darllenasai hanes y cyfarfod yn Llechfaen ac edrychai braidd yn wawdlyd ar bopeth ond y prif areithiau.
"Hy," meddai, "mae'n ddigon hawdd i Now'r Wern weiddi am sefyll yn gadarn. Mae o'n cael arian da tua Lerpwl 'na a'i wraig o'n byw hefo'i rhieni, heb orfod talu dimai o rent iddyn nhw. Mae'n traed ni ar y graig,' medda' fo. Craig o arian, Id, os ydi'r hyn glywis i am Dafydd Ellis, 'i dad yng nghyfraith o, yn wir. A dyna ti Harri Bach Pen Lôn, yr hen geg fawr. Mi fuo'n llyfu ac yn cynffonna isio cael 'i wneud yn farciwr cerrig pan oedd o ym Mhonc Boni, ond pan fethodd o, dyma fo'n troi'n rebal cegog. Sour grapes, 'ngwas del i, sour grapes. A dyna ti Jac Sir Fôn . . . "
"Ddarllenaist ti areithia' Robat Williams a 'J.H.' a 'Nhad?" gofynnodd Idris.
"Do, debyg iawn, ond . . .
"Ac un Ifan Pritchard?"