Tudalen:Chwalfa.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Do, yr oedd un yr hen Ifan yn fendigedig, ond oedd? Ond . . .

"Ac un Richard Owen, Fron?"

"Do. Dyn da ydi Richard Owen, yntê? Ond mae rhyw dacla' cegog fel Harri Bach Pen Lôn yn fy ngyrru i'n gacwn."

"Sylwada'r lleill sy'n bwysig, Dic. Dynion tawal a gwaelod ynddyn' nhw, fel yr hen Ifan Pritchard a Richard Owen, sy'n ymladd dros egwyddor fawr-urddas gweithiwr fel gweithiwr ac fel dyn. A thra bydd rheini'n sefyll yn gadarn, mi fedrwn gymryd sŵn rhai fel Harri Pen Lôn am 'i werth. Petawn i'n ddyn rhydd, heb wraig na phlant, mi faswn i'n gyrru hannar fy nghyflog bob wsnos i'r Gronfa ar ôl darllan anerchiad syml yr hen Ifan. Ac mi fydd isio bob dima' arnyn' nhw cyn hir, mae arna' i ofn. Efalla' y bydd raid iddyn' nhw ddal i ymladd am fisoedd eto, ac fe ddaw'r gaea' ar 'u gwartha' nhw. yn fuan iawn."

"Petawn i'n ddyn rhydd, mi faswn i'n malu ffenestri pob Bradwr yn y lle ac yn dengid i 'Mericia ne' rwla wedyn."

Bu tawelwch rhyngddynt am awr neu ddwy, ac yna daeth y "shotsman" heibio i danio'r tyllau a dorrwyd ganddynt. Eisteddodd y ddau wedyn ar ochr yr heding i fwyta cyn clirio'r ysbwrial yn y prynhawn.

"Diawcs, mae gan Dafydd 'cw feddwl ohono'i hun y dyddia' yma, fachgan," meddai Dic fel yr agorai ei dun bwyd.

"O?"

"Mae o yn yr Ysgol Fawr, yn Standard Wan, 'rŵan ac yn goblyn o fôi yn 'i dyb 'i hun."

"Ydi, mae'n debyg." Yr oedd tôn Idris braidd yn sych. Dringasai Gruff hefyd i'r Ysgol Fawr yn Llechfaen, ond ni welsai ei dad mohono ar ôl i hynny ddigwydd.

""Rydan ni wedi bod yn lwcus hefo'n cymdogion, mae'n rhaid imi ddeud," meddai Dic ymhen ennyd.

"O?"

"Do, wir, fachgan. Mae Mrs. Price am ofalu am Huw ddydd Sadwrn."

"I be'?"

""Ddeudis i ddim wrthat ti? Mae Siân a finna' am fynd â'r ddau arall ar y sgyrsion i Gaerdydd. Ac os bydd hi'n braf, efalla' yr awn ni ar un o'r llonga' 'na sy'n croesi'r Sianel. Mae Siân wrth 'i bodd i lawr yma, fachgan. A'r plant hefyd o ran hynny."