Tudalen:Chwalfa.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Parablodd Dic ymlaen yn ddifeddwl yn y tywyllwch, heb weld yr ing yn wyneb ei gydweithiwr. Ac os bydd hi'n bwrw ddydd Sadwrn, mi awn ni i'r sioe fwystfilod 'na sy yng Nghaerdydd yr wsnos yma. Mae Dafydd yn sâl isio cael reid ar yr eliffant . . . Hylô, pwy ydi hwn?"

Nesâi lamp drwy'r heding: cryfhâi, hefyd, lais ei pherchennog.

The minshtrel bho-oy to the warr has gone . . .

"Jerry," meddai Dic.

"Well, Idris, my boyo, have ye made up your mind?" gofynnodd y cawr pan ddaeth atynt.

Yes, Jerry, Ive thought it over."

"Good. I'll be seeing Ike James to-night."

"Tell him I'd like to take the house for a month or two."

"Ond, Id, yr oeddat ti'n deud neithiwr . . .

"Fy mhotas i ydi hwn, Dic. If he'll let me have it, Jerry."

"If? Yours it is, my boyo. Ike and me are butties, and if it's his pal Jerry that's askin' him a favour, it wouldn't be in him to say 'No.'"

"Ond gwranda, Idris . . ."

Right, Jerry. When will you let me know?"

"Yli, Id, 'dydi o ddim o 'musnas i, ond . . .

To-night, Jerry?"

Ay, it's call round your place on my way home to-night I will to let you know it's all settled."

"Yli, Id, 'wyt ti'n siŵr dy fod di'n gwneud y peth doeth? Neithiwr yr oeddat ti'n . . .

"And sure 'tis the wise thing ye're doin', " meddai Jerry, fel petai'n deall geiriau Dic yn reddfol. "Clane lost ye

must feel without your wife and children."

Tawedog iawn fu'r ddau chwarelwr wedi iddynt ailgydio yn eu gwaith. Sylweddolai Dic mai ei glebran ef a oedd wrth wraidd penderfyniad sydyn Idris, a chyn hir aeth y rhawio diymgom yn fwrn arno.

"Idris," meddai, a dram yn llawn a'r haliar a'i geffyl heb gyrraedd i'w dwyn ymaith, "mae'n ddrwg gin' i, 'r hen ddyn."

'Drwg? Am be'?"

Na faswn i wedi rhoi cwlwm ar y tafod 'ma sy gin' i. Malu am Siân a'r plant, a thitha'n hiraethu am Kate a Gruff ac Ann a'r baban. Ond ydw' i'n hen lembo gwirion?