Tudalen:Chwalfa.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r mab gyda'i gilydd yn awr gwelai yng ngolau'r gannwyll a adawsai ynghyn yno fod Gwyn yn chwysu ac mewn poen. "Tyd, yfad hwn, 'ngwas i. Mi deimli di'n well wedyn."

"Hen boen ofnadwy yn f'ochor i, Tada."

"Ym mh'le, Gwyn bach? "

"Yn fan yma, lle'r oedd o o'r blaen pan on i yn fy ngwely am wsnos." A rhoes ei law wrth ei galon.

"'Ydi d'aeloda' di'n brifo?"

"Ydyn', yr un fath ag o'r blaen. Fy ffera' i a 'mhenna' glinia' i."

'Oes gin' ti gur yn dy ben? "

Oes, Tada."

"Tria'r llefrith poeth 'ma 'rwan. A dyma iti ddarn o'r deisan gyraints honno o siop Preis. 'Rwyt ti'n 'sgut am hon, ond wyt?

Ond er mor hoff oedd Gwyn o'r deisen gyraints o siop Preis, ni fedrai fwyta dim ohoni; yr oedd ei wddf yn rhy boenus iddo lyncu tamaid. Llwyddodd i sipian y llefrith yn araf, ac yna troes Megan, a oedd newydd gyrraedd, ef ar ei ochr i gysgu, gan lapio'r dillad yn dyner amdano. Brysiodd hi i lawr y grisiau wedyn, a dilynodd ei thad hi'n araf.

"Tada?"

"Ia, 'ngwas i?" Dychwelodd at y gwely. "'Ddeudis i ddim wrtho fo fod yn ddrwg gin' i."

"Wrth bwy?"

Rhyw hogyn mawr i lawr wrth yr afon."

Pwy oedd o?"

"'Dydi o ddim yn ysgol ni."

"Yn ddrwg gin' ti am be'?"

""Roedd o wedi 'ngweld i hefo Harri Rags ddoe, a fi ddaru guro ar 'i ddrws o. Mae 'i dad o'n Fradwr, ac 'roedd o isio imi ddeud bod yn ddrwg gin' i. Ond' 'Dydi ddim yn ddrwg gin' i,' ddeudis i."

"Tria gysgu 'rŵan, Gwyn bach."

"Pryd byddwch chi'n dwad i'ch gwely, Tada?"

'Fydda' i ddim yn hwyr, 'ngwas i. 'Ga' i adael y gannwyll iti? "

"Na, mae isio bod yn gynnil hefo cnwylla', medda' 'Mam."

"Tria gysgu 'rwan, 'machgan i."

I lawr yn y gegin edrychodd Megan a'i thad yn bryderus ar