Tudalen:Chwalfa.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyn y Tyddyn '—mi wnaiff y bennod y tro—ond er mwyn

Tawodd, a'i wyneb mawr fel un plentyn ar fin crio.

"Er mwyn?"

"Dy dad a'th fam. A'r hogyn bach sy yn yr Ysbyty 'na yn Lerpwl. A. . . a Gwen."

Yr oedd Dan bron ag ildio, a phetai'r Ap heb enwi Gwen, ildio a wnaethai. Ond ni chlywsai oddi wrthi ers tair wythnos ddim gair yn ateb i'w lythyr diwethaf, ac yn ei oriau o euogrwydd taflai arni hi a'r llanc gwallt-cyrliog y bai am ei ddirywiad.

"'Rydw' i wedi addo galw i weld rhywun am funud," meddai."Arhosa' i ddim heno. Mi fydda' i yn f'ôl cyn pen hannar awr."

Trawai cloc y dref wyth fel yr âi allan. Aeth y Golygydd ati i ailwampio tipyn ar ddiweddglo'i nofel, ac yna safodd wrth y ffenestr yn gwrando ar sŵn pob troed ar y palmant tu allan. Naw, deg, un ar ddeg. Daeth Mrs. Rowlands i mewn i daro cannwyll ar gongl y bwrdd.

"Diolch, Mrs. Rowlands, diolch." Safodd ar yr aelwyd, a'i gefn at y tân, a chymryd tudalen o bapur oddi ar y bwrdd. Yna, gan ddynwared ei frawd, tad Emrys a Gwen, a gyhoeddai bob nos Sul yn y capel yr âi Mrs. Rowlands iddo: "Nos yfory, nos Iau, ychydig wedi un ar ddeg, ni fydd angen cannwyll ar Ap Menai. Dymunwn hysbysu y bydd y dywededig ŵr, wedi tair noswaith o ymatal dewr, yn cael ei hebrwng adref rhwng William y Llongwr ac Owen y Mecryll ac yn gorwedd i gysgu ar y soffa acw."

Bore trannoeth, â thelegram yn ei law a'i wyneb fel y galchen, aeth Dan i mewn i swyddfa'r Golygydd.

"Gwyn," meddai a'i lais yn ddim ond sibrwd.

Darllenodd yr Ap y telegram."Mae dy dad a'th fam yn Lerpwl, ond ydyn', Daniel?" meddai."Os na ddychwelan' nhw heno, 'oes gen' ti rywla arall i aros yn Llechfaen?"

Oes. Tŷ f'ewyrth John tros y ffordd. Ne' dŷ Robat Williams. Mae o'n ffrind mawr i 'Nhad. Yno y basa' ora' imi fynd efalla', gan fod Ceridwen fy nghnithar yn wael yn nhŷ f'ewyrth."

Gwell iti fynd ar unwaith, Daniel. A phaid â brysio yn d'ôl. Mi wna' canol yr wsnos nesa'r tro yn iawn."

"Ond . . . ond mae'r papur yn mynd i'w wely heno."