Tudalen:Chwalfa.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wnâi o ddim gwahaniaeth 'tasa' 'na ddwsin o bapurau'n mynd i'w gwelâu heno. Dos, a gofyn i Mrs. Rowlands roi tamaid o ginio cynnar iti. A hwda . . . rho'r goron 'ma i'th fam. Mi ddaw rhyw ddieithriaid acw, mae'n debyg. Mae'n ddrwg o galon gen' i, Daniel, 'machgan i. O galon.'

Bu raid i'r Ap weithio'n hwyr y noson honno. Galwodd yn yr Harp' ar ei ffordd adref, a llonnodd Wil Llongwr drwyddo wrth ei weld. Buasai Wil yn segura am fisoedd lawer, a dibynnai yn awr ar haelioni rhai fel yr Ap er mwyn torri'i syched. Chwiliodd am un o'i straeon gorau, ond gwrandawai Golygydd Y Gwyliwr' fel un mewn breuddwyd. Yfodd un glasaid ac yna aeth allan heb ddweud gair wrth neb. Ni bu galw am wasanaeth Wil Llongwr a Now Mecryll am un ar ddeg.

Gorweddai caenen ysgafn o eira tros fynwent Llechfaen brynhawn Llun. Safai Dan wrth droed y bedd agored, gan syllu'n ffwndrus ar wynebau gwelw ei dad a'i fam. Yr oedd ei dristwch yn fawr; ei euogrwydd a'i edifeirwch yn fwy. Teimlasai'n annifyr yn Gwynfa' dros ddiwedd yr wythnos. Nid edliwiodd neb ddim wrtho, ond gwyddai'n reddfol, heb i'w dad na'i fam na Megan nac Idris yngan gair, fod y newid a ddaethai trosto ef fel malltod wrth wraidd eu meddyliau. Diolch na fedrodd Kate adael ei phlant a dyfod i fyny i'r cynhebrwng: ni allai gyfarfod edrychiad ei llygaid mawr hi.

Swniai geiriau'r Person yn ddisylwedd iddo, rhyw iaith a llais a ddeuai o bellter niwlog, tros ffin anhydraidd bron . . .

"Dyn a aned o wraig sydd a byr amser iddo i fyw ac sydd yn llawn trueni . . ."

Meddyliasai am ei fam bob amser fel dynes fawr, gref, writ-goch, ond heddiw ymddangosai hi'n llawer teneuach na Megan, a oedd wrth ei hochr, a'i hwyneb fel petai wedi crebachu'n sydyn. Ond wrth gwrs, yr oedd Megan yn mynd yn dew, yn gwrs o dew, i fyny yn Albert Terrace . . .

"Yng nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau. Gan bwy y mae inni geisio ymwared? . . ."

Gwyn druan, Gwyn bach, yr hen Gwyn, a'i lygaid diniwed, syn, yn fawr gan edmygedd o bopeth a wnâi ac a ddywedai ef, Dan. Petai ef wedi cynorthwyo'r teulu drwy'r flwyddyn, efallai . . . efallai na ddigwyddasai hyn, y byddai chwerthin Gwyn bach heb ei ddiffodd, a'i lafar tawel, hen-ffasiwn, boneddigaidd o hen-ffasiwn, yn fiwsig o hyd . . . Gwelai'r arch