Tudalen:Chwalfa.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arian reit dda lle mae o, a'r plant yn hapus iawn ym Mhentre' Gwaith. Mae Dic Bugail wedi mynd yn Sowthman iawn medda' Wil—yn 'rêl Shoni,' chwadal ynta'."

Gododd Edward Ifans oddi wrth y bwrdd. "Mi a' i i'r llofft i newid," meddai, "ac wedyn i lawr i edrach am yr hen Robat Williams. Sut mae o heno, tybad?"

"Mi welis i Catrin yn y siop gynna'. Suddo mae o, Edward, mae arna' i ofn, ac 'roedd hi'n deud bod Doctor Roberts yn ysgwyd 'i ben yn o ddiobaith bora 'ma pan alwodd o i'w weld o.

'I galon o, medda' fo. Mae o wedi gwaelu er pan ddaru chi alw nos Fawrth, medda' Catrin."

Ia, 'i galon o, meddyliodd Edward Ifans yn llwm a braidd yn chwerw. Wedi'i thorri gan y diwedd trist a fu i'r streic, gan daeogrwydd ei gyd-weithwyr. Ond ni ddywedodd ddim wrth Fartha, dim ond gwenu wrth ei gweld hi'n brysio i olchi'r llestri.

"Am redag tros y ffordd yr ydach chi, yr ydw' i'n gweld," meddai.

"Rhyw wrthwynebiad?"

"Dim o gwbwl. Rhowch gusan i Eiluned a Gwyn bach trosta' i."

Erbyn hyn, trigai Megan tros y ffordd, yn cadw tŷ i'w hewythr John. Claddwyd Ceridwen yng nghanol Mehefin a bu John Ifans fyw ar ei ben ei hun am dri mis. Pan anwyd baban Megan yng Nghorffennaf-bachgen, a alwodd hi yn Gwyn—dywedai wyneb Letitia Davies fod un plentyn yn rhoi llawenydd dirfawr iddi, ond bod dau—ac ychwaneg, efallai, os âi pethau ymlaen fel hyn—yn fwrn ar fyd. Felly hefyd y teimlai Ifor, a anwybyddai'r mab bychan yn llwyr—ond pan regai ef weithiau ganol nos. O'r diwedd, er mwyn cael rhyddid i grwydro'n amlach i'r dref, cytunodd i roi chweugain yr wythnos i Fegan a'i rhyddid i fynd ymaith lle y mynnai. Hi a wnaethai'r cais, ond y tu ôl iddo yr oedd yr awgrym a daflasai'i hewythr John ati droeon—"Piti na fedret ti a'r plant ddŵad i fyw ata' i, a gadael yr hogyn yna, go daria 'i ben o. Mi fasan ni mor hapus â'r gog, wsti, a'th fam yn medru rhedag draw pan fynnai hi yn lle bod fel pelican yn Gwynfa.'"

A gwireddwyd y gair. Brysiai traed trymion John Ifans tuag adref bob nos er mwyn i'w perchennog gael siglo crud