Tudalen:Chwalfa.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwyn a cheisio diddori Eiluned drwy ganu am ddau gi bach yn mynd i'r felin, neu am yr iâr yn dodwy wy bob dydd a'r ceiliog yn dodwy dau. Nid oedd yn ganwr a fu erioed ar lwyfan, ond credai'i gynulleidfa, a farchogai'n hapus ar ei droed, ei fod ymhlith goreuon y wlad.

Nid yn aml y mae gan blant dri o deidiau, ond mwynhâi Eiluned a Gwyn y rhagorfraint honno. Dyna "Taid "—John Ifans oedd ef—"Taid Nain" tros y ffordd, a "Taid Davies " i fyny yn Albert Terrace. Galwai'r olaf ambell fore ar ei daith gasglu—hel 'siwrin oedd ei waith yn awr—a dôi i lawr yn ddi-ffael bob nos Wener i ddwyn chweugain Ifor i Fegan ac i oedi'n ddigrif o ddedwydd uwchben cwpanaid o de. Fel rheol, yr oedd gan Letitia Davies Bwyllgor â llythyren fawr ar nos Wener, a chyn gynted ag y caeai hi'r drws ffrynt o'i hôl, neidiai Gruffydd Davies i'w gôt fawr a'i het, pranciai drwy'r drws cefn a charlamai drwy lonydd culion, dirgel, tua Than-y-bryn. Trawai i mewn hefyd yn annisgwyl ambell gyda'r nos. "Digwydd pasio" y byddai, ond gwyddai John Ifans a Megan mai "digwydd bod allan " yr oedd ei wraig, a'r dyn bychan yn manteisio ar y cyfle i chwarae triwant o Albert Terrace.

Yr oedd Nain hefyd yn llawer hapusach. Câi hi a Megan "de bach" am ddeg bron bob bore, a rhedai dros y ffordd yn aml yn ystod y dydd. Ac, a hunllef Albert Terrace drosodd am byth, collodd Megan yr olwg sorth, ddiysbryd, a fu arni. Beth a ddigwyddai petai ei Hewythr John yn mynd yn wael neu Ifor yn gwrthod talu'r chweugain, ni wyddai. Ond ni phoenai: digon i'r diwrnod ei ddaioni ei hun.

"Sut mae o heno, Catrin Williams?" gofynnodd Edward Ifans pan gyrhaeddodd dŷ Robert Williams.

"Mae o i'w weld dipyn yn well, wir—yn fwy siriol, beth bynnag. Dowch i mewn. Mi fydd o'n falch iawn o'ch gweld chi. Hen noson fudur, yntê? 'Dda gin' i ddim niwl."

Arweiniodd ef i fyny'r grisiau a'i roi i eistedd wrth y gwely. Yr oedd y lamp yn olau yno a thân yn y grât.

"Wel, Robat Williams?"

"Wel, Edward?" Tynnodd yr hen arweinydd ei sbectol haearn a tharo'r llyfr a ddarllenai ar y bwrdd wrth ochr y gwely.

"Yr hen ddarllan 'na eto," ebe Catrin Williams."Swatio a gorffwys ddeudodd Doctor Robaits wrthach chi, yntê?