Tudalen:Chwalfa.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhowch y dwylo a'r breichia' 'na o dan ddillad y gwely, wir. Maen' nhw fel clai gynnoch chi, yr ydw' i'n siŵr. Ydyn', fel clai, Edward Ifans," meddai wedi iddi deimlo llaw ei gŵr."Ond pa iws ydi prygethu wrtho fo? 'Waeth i chi siarad hefo'r gath 'na ddim.' Yr oedd y gath mewn myfyr swrth o flaen y tân.

Gwenodd Robert Williams wedi i'w wraig fynd ymaith."Mi fasa' rhyw ddieithryn yn meddwl bod Catrin yn rêl blagard, Edward," meddai. Yr oedd ei lais yn bur wan. Cydiodd Edward Ifans yn y llyfr."Hanes Ardal Llechfaen" gan Robert Roberts y teiliwr ydoedd.

"O, llyfr yr hen Robat Robaits?

Ia. Dipyn o hen bry' ydi Robat, fachgan, chwilotwr heb 'i ail. Ond mae'r llyfr yn gwneud imi deimlo'n hen iawn. Y bennod 'na ar gychwyn achos yr Annibynwyr on i'n ddarllan 'rŵan. Diar, yr ydw i'n cofio'r cymeriada' y mae o'n sôn amdanyn' nhw. 'I nain o yn cerddad bob cam o Gefn Brith a'i chlocsia' am 'i thraed a'i 'sgidia' gora' dan 'i braich, ac yn newid y clocsia' wrth ddrws y Tŷ Cwrdd. Ydw', yr ydw' i'n 'i chofio hi-pwtan fach chwim fel wiwar, yn gwisgo bonat o sidan du bob amsar. Yr hen Owen Jones Tyddyn Celyn wedyn, fo a'i gi-yr ydw' i'n 'i gofio ynta'. Dyn mawr â locsyn coch, a'i wefusa' fo'n symud bob tro yr oedd o'n meddwl. Mi fydda'r ci hefo fo yn y gwasanaeth bob amsar ac yn medru mesur deugain munud o bregath i'r eilad. Os âi'r pregethwr dros y deugain munud, mi fydda'r hen gi yn agor 'i lygaid a'i geg ac yn rhoi ochenaid dros y lle. A'r hen Owen yn rhythu'n gas arno fo ac wedyn yn taflu winc slei ar un ne' ddau o'r bobol o gwmpas-pan oedd y pregethwr ddim yn edrach. Ia, un da oedd Owen Jones Tyddyn Celyn. 'Wyt ti'n 'i gofio fo? Na, yr oedd o wedi marw cyn dy eni di, ond oedd?"

Oedd, yr ydw' i'n meddwl . . . 'Ydach chi wedi sgwennu rhywfaint yn ddiweddar, Robat Williams?"

"Ddim gair ers mis. Er . . . y cwarfod dwytha' hwnnw. Bu tawelwch rhyngddynt. Yr oedd nos Sadwrn y cyfarfod olaf yn glir iawn ym meddwl y ddau, ac ni hoffai'r un ohonynt sôn am y peth. Am fisoedd lawer cyn hynny, llithrai dynion yn ôl i'r chwarel a chynyddai rhif y Bradwyr yn gyflym o wythnos i wythnos. Clywyd ym mis Mawrth na fyddai