angen tua chwe chant o'r hen weithwyr pan ddeuai diwedd y Streic, am fod yn y chwarel ormod o ddynion cyn i'r helynt ddechrau ac y cadwai'r awdurdodau y rhan fwyaf o'r chwarelwyr newydd ymlaen. "A fydda' i ymhlith y rhai fydd wedi'u cau allan?" oedd y cwestiwn pryderus ym meddwl llawer un, ac ysgrifennodd amryw i'r chwarel—ond heb ddweud gair wrth ei gilydd—gan gredu mai'r cyntaf i'r felin a gâi falu. Daliai llawer o'r gwŷr hynny i fynychu'r cyfarfodydd ac i sôn am sefyll yn gadarn fel y graig," ond gan ddyfalu'n slei pa bryd y clywent o swyddfa'r gwaith. Ym Mehefin, dywedodd un o brif swyddogion y chwarel nad oedd arnynt eisiau ond rhyw naw cant o weithwyr eto; yng Ngorffennaf, dychwelodd rhai o aelodau Pwyllgor y Gronfaʼn ddirgel i'r gwaith; yn Awst, ymfudodd llawer eto i'r De ac amryw i America; ac yna ym Medi, hysbyswyd bod y tair mil o bunnau a dderbynnid yn flynyddol oddi wrth Gynghrair Cyffredinol yr Undebau Llafur i beidio. Beth . . . beth yn y byd a wnaent yn awr? Yr oedd newyn yn rhythu arnynt. O b'le y dôi arian y rhent heb sôn am fwyd a glo a dillad? Medi oer, a'r gaeaf yn ei awel.
Yn nechrau Hydref, anfonwyd cylchlythyr i'r De i ofyn i'r dynion yno, fel y streicwyr gartref, bleidleisio dros ymladd ymlaen neu ildio. Pleidleisiwyd yng nghanol y mis a chael bod y mwyafrif mawr yn gryf dros barhau i frwydro."Parhau i frwydro," "ymladd i'r pen," "sefyll fel y graig," ond. . . ond sleifio'n ôl i'r chwarel yr oedd ugeiniau o bleidleiswyr Llechfaen a'r cylch. Ciledrychai dynion yn amheus ar ei gilydd yn y cyfarfodydd, sibrydent, ffracent—a thu allan dywedai oerwynt Tachwedd fod eira ar y copaon. Yna, yn un o'r cyfarfodydd olaf, cododd yr hen Ifan Tomos yn herfeiddiol ar ei draed. "Yr ydw' i wedi dŵad yma i ddeud wrthach chi yn ych gwyneba' fy mod i am yrru f'enw i'r chwaral,"meddai." Mae'n well gin' i wneud hynny na chodi fy llaw dros ymladd ymlaen a mynd adra' i sgwennu'n llechwraidd i'r offis. Galwch fi'n Fradwr os liciwch chi, ond yr ydw' i'n onast ac agorad yn yr hyn ydw' i'n wneud." Y noson honno y pleidleisiwyd eilwaith yn Llechfaen ac yn y De ac y penderfynwyd rhoi terfyn ar y streic.
"'Dydach chi . . . 'dydach chi ddim wedi . . . colli ffydd, Robat Williams?" gofynnodd Edward Ifans yn awr.