Tudalen:Chwalfa.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyd, yr ydw' i'n cyhoeddi'n ffurfiol heno fod y streic hir ar ben. Fe fydd 'J.H.' yn hysbysu awdurdoda'r chwaral mewn llythyr dros y Pwyllgor ac yn gofyn iddyn' nhw dderbyn cymaint ag sydd bosibl o'u hen weithwyr yn ôl. Ond fel y gwyddoch chi, mae'n rhaid i bawb wneud cais personol yn y swyddfa, a dywedwyd droeon ar goedd ac mewn papur newydd y cymerir rhan dyn yn y streic i ystyriaeth wrth benderfynu a roir ei waith yn ôl iddo ai peidio. Yr ydan ni'n gorfod ildio'n ddiamodol: felly pwy ydan ni i ofyn am delera' a ffafra'? Os metha rhai ohonoch chi â chael gwaith, y mae'r Pwyllgor mewn cyffyrddiad â gwŷr fel Mabon ac eraill yn y De, a threfnir i roi cymorth o weddill y Gronfa i'r ymfudwyr. Ond mae amryw sy'n rhy hen i adael 'u cartrefi bellach, neu efalla' fod amgylchiada' personol, fel afiechyd yn y teulu, yn gwneud symud yn amhosibl. Pasiwyd gan y Pwyllgor fod yr arian sy mewn llaw o'r Gronfa i gael 'u defnyddio i gynorthwyo'r rhai hynny cyhyd ag y gellir.

"Does 'na ddim ond dau beth arall-diolch i'n cydweithwyr ni drwy'r Deyrnas, yn enwedig yr Undebau Llafur drwy'r holl wlad, am fod yn gefn inni, a diolch i bawb ddaru gyfrannu mor hael at y Gronfa ac a roes dderbyniad mor wresog i'r corau a'r casglwyr drwy'r helynt. Yr ydw' i'n galw ar Edward Ifans i gynnig y diolch i'n cyd-weithwyr . . .

Yr oedd hynny fis yn ôl. Fel rheol, er ei fod bellach yn ŵr deuddeg a thrigain, yr oedd Robert Williams yn sionc iawn ar ei droed, ond yn araf a llesg y cerddodd tuag adref y noson honno, fel un a aethai'n hen mewn hwyrnos fer."Diar, yr ydw' i wedi blino, Catrin bach," meddai pan gyrhaeddodd y tŷ."Fel 'tasa' pob mymryn o nerth wedi mynd allan ohona' i. Yr ydw' i'n meddwl yr a'i i 'ngwely ar unwaith."

Yn ei wely y bu byth er hynny. Galwai Edward Ifans i'w weld unwaith neu ddwy bob wythnos, ond ychydig a siaradent am y streic. Clwyfwyd Robert Williams yn dost gan ei gydweithwyr, a cheisiai beidio â chyffwrdd â'r briw. Crwydrai ei feddwl a'i sgwrs yn ôl, yn hytrach, i'w fachgendod ac i'w flynyddoedd cyntaf yn y chwarel—at yr hen filwr ungoes, meddw—" Spreg Leg"—a gadwai ysgol yng nghapel y Bedyddwyr ac a chwarddai yn ei ddyblau ar ôl gwthio rhyw hogyn anwyliadwrus yn bendramwnwgl i'r seston; i Sosieti y Plant, rhagflaenydd y Band of Hope, lle y gwnaed cerddor o