Tudalen:Chwalfa.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Robert Williams; i'r sgwario a'r ymsythu ar ddiwedd blwyddyn yn yr Ysgol Genedlaethol pan ddôi swyddog o'r chwarel heibio i ddewis y bechgyn mwyaf a chryfaf ar gyfer y gwaith; i'w ddyddiau cynnar yn y chwarel a'r gwaseidd-dra a'r llwgrwobrwyo a oedd yno. Ni soniai hyd yn oed am streiciau ac etholiadau'r gorffennol, eithr dewis byw ym mhymtheng mlynedd cyntaf ei fywyd.

Ond heno, nid ymhell yn ôl yr âi meddwl Robert Williams."Mi ddeudis i funud yn ôl fy mod i'n gweld petha'n gliriach erbyn hyn, Edward, meddai."Mae fy meddwl i wedi bod yn chwerw iawn ers. . . er y noson ola' honno. A dim heb achos. Dyna ti William Williams y drws nesa' 'ma. Mi frwydrwn i'r pen,' medda' fo'n ffyrnig yn y cwarfod dwytha' ond un, yntê? Ond yr oedd o'n mynd i swyddfa'r chwaral ben bora dydd Llun i drio cael y blaen ar bawb arall. Dyna ti Dafydd Lloyd tros y ffordd 'ma wedyn. Mi lwgwn cyn yr ildiwn ni,' oedd 'i eiria' fo, os wyt ti'n cofio. Ond mi ollyngodd Elin Lloyd y gath allan o'r cwd y diwrnod wedyn wrth siarad hefo cnithar Catrin 'ma. "Wn i ddim be' sy o'n blaena' ni," medda' hi, a Dafydd wedi'i wrthod yn fflat yn yr offis.' Digwyddiada' fel 'na ddaru fy suro i. Ac wrth imi wrando ar dramp y traed yn mynd i'r chwaral bob bora, ychydig iawn ohonyn nhw oedd yn swnio'n gadarn ac onast. Ychydig iawn, iawn, Edward."

Tawodd, a'i lygaid hen yn cau gan flinder. Agorodd hwy eto ymhen ennyd, a disgleiriai hyder ynddynt yn awr.

Ond yn ystod y dyddia' dwytha' 'ma, fel yr on i'n deud neithiwr wrth Mr. Edwards y gwnidog, mae'r chwerwder wedi mynd bron i gyd, fachgan. Yr hyn sy'n aros yn fy meddwl i ydi ein bod ni, chwarelwyr syml, cyffredin, wedi meiddio sefyll am dair blynadd dros ein hiawndera', wedi ymladd ac aberthu mor hir dros egwyddor. 'Fasa' fy nhad ddim yn credu bod y peth yn bosib', a phrin y medrai'i dad o ddychmygu'r fath haerllugrwydd. Colli'r frwydyr ddaru ni, ac erbyn y diwadd yr oedd afiechyd ac anobaith ac ofn wedi dryllio'r rhenga' a gwneud llawer ohono' ni'n llai na ni'n hunain. Dynion gwan a gwael yn gorfforol oeddan ni erbyn hynny, a Duw yn unig a ŵyr be' ydi dylanwad y corff ar y meddwl a'r ewyllys. Ond mi ddaru ni ymladd yn hir ac ymladd yn ddewr-hynny sy'n bwysig, Edward, hynny sy'n bwysig."