Edrychodd Edward Ifans yn bryderus arno. Yr oedd ei lais yn wan iawn, heb fod fawr mwy na sibrwd bellach, a chaeasai'i lygaid eto. Cododd yr ymwelydd rhag i'r huodledd ymdrechus hwn drethu'r claf.
"Ia, yr ymdrech oedd yn bwysig, Robat Williams," meddai'n ddwys, " yr ymdrech, nid y wobr."
Ia, Edward. Mi ddaru ni golli'r frwydyr-ac ennill y dydd. 'Fydd dim rhaid i'r rhai ddaw ar ein hola' ni ymladd am dair blynadd a dwyn y fath chwalfa i'r hen ardal. Efalla' na fydd raid iddyn' nhw ymladd o gwbwl."
Ganol dydd, drannoeth-dydd Sadwrn ydoedd ac Edward Ifans gartref i'w ginio-arhosodd Martha i'w gŵr orffen bwyta cyn torri'r newydd iddo.
"Dowch â'ch 'panad i'r gadair freichia' 'ma, Edward. A chymwch fygyn hefo hi."
Ufuddhaodd yntau. Trawodd y cwpan ar y pentan a thaniodd ei bibell yn araf, gan wybod bod ganddi rywbeth anfelys i'w ddweud wrtho.
"Wel, Martha? Allan â fo."
"Mae'r hen Robat Williams wedi'n gadael ni."
Yfodd ef lymaid o'r te heb ddywedyd gair, ac yna syllodd ir tân.
"Pryd . . . pryd yr aeth o?"
"Bora 'ma, pan oedd y wawr yn dechra' torri. Dydd Merchar y byddan' nhw'n claddu."
Eisteddodd Edward Ifans yno'n hir heb yngan gair. Yna cododd a mynd i'r gegin ganol. Tynnodd y llyfr, "Hanes Ardal Llechfaen" o'r cwpwrdd llyfrau yng nghongl yr ystafell a dychwelodd i'w gadair freichiau yn y gegin fach. Tu fewn i'r llyfr yr oedd ysgrifau wedi'u torri allan o bapurau newydd, a chymerodd un ohonynt a'i hagor allan yn ofalus. Darllenodd hi yn araf drosodd a throsodd, gan adael i'r te oeri ac i'r bibell ar y pentan wrth ochr y cwpan ddiffodd.
"Be' ydi hwn'na, Edward?"
"Yr ysgrif sgwennodd Dan yn Y Gwyliwr' ar Robat Williams."
Ochneidiodd hithau. "Dan," meddai."Roedd rhywbath yn deud wrtha' i y dôi llythyr oddi wrtho fo bora 'ma. Ond 'ddaeth 'na ddim gair."
"O, mi gawn rywbath ddydd Llun, mae'n debyg, Martha . . . Dydd Llun oedd hi pan glywsom ni ddwytha', yntê?"