Tudalen:Chwalfa.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ia, pan yrrodd o ddwybunt inni. Mae mis er hynny. A'r tro cynt yr oedd pum wsnos rhwng 'i lythyra' fo. 'Ddaw o adra' dros y 'Dolig, tybad?"

Ni ddywedodd ei gŵr ddim. Ychydig a siaradent am Dan, gan na wyddent fawr ddim o'i hanes yn Llundain. Gwyddent ei fod yn bur lwyddiannus yn Fleet Street, ond . . . ond llwch yn eu dwylo oedd y llwyddiant hwnnw pan gofient y stori a glywsent ar ddamwain amdano. Trawodd dau aelod o'r côr arno un noson wrth dafarn yn y Strand, a buont yn ddigon annoeth i'w wahodd gyda hwy i'r llety lle'r arhosai tua dwsin ohonynt. Yr oedd yn feddw, yn dlawd yr olwg er ei lwyddiant—ac, yn ei ddiod, yn huawdl ac ymffrostgar. Hy, byddai'r nofel Saesneg yr oedd ef yn gweithio arni yn ei wneud yn fyd-enwog ac yn ŵr cyfoethog yn fuan iawn!

"Ddeudis i ddim wrthach chi ddoe, Edward," chwanegodd Martha," ond yr oedd Wil Sarah yn dallt bod Dan wedi bod yn y Sowth—dros 'i bapur newydd-a heb fod ar gyfyl Idris a Kate."

"Efalla' . . . efalla' na chafodd o ddim amsar i bicio yno."

"Efalla', wir. Ond . . . ond mae'n haws gin' i gredu . . ."

"Be'?

"Mai ofn Kate yr oedd o. 'Wn i ddim pam, ond yr oedd gan Kate fwy o ddylanwad na neb ar Dan. O, piti na châi o gychwyn yn y Coleg eto, Edward."

"Mi gynigis i hynny iddo fo yn fy llythyr dwytha'. Mae mis er hynny, mis heb atab."

"Oes." Ochneidiodd eto, ac yna cymerodd y cwpan oddi ar y pentan. "Dydach chi ddim am yfad y te 'ma, yr ydw' i'n gweld."

"Dim diolch, Martha . . . Piti na chaem ni Dan yr ysgrif 'ma'n ôl, yntê? Gwrandwch ar y clo sydd iddi—Ni wyddom pa bryd na beth fydd terfyn yr helynt hwn, ond gwyddom y saif yr hen arweinydd yn gadarn i'r diwedd un, a'i fwriad fel her rhyw lwybr nadd ar war gelltydd. Pwy bynnag arall a lithra neu a flina, ni chloffa efe. Hyd yn oed os pery'r streic am flwyddyn gron arall, gwyddom y gall Robert Williams ddywedyd hefo'r Apostol Paul: Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a gedwais y ffydd.'

Ysgydwodd Martha Ifans ei phen yn ddwys."Mi fasa'r adnod yna yn un go dda ar fedd yr hen Robat Williams, on' fasa', Edward?"