Yno hefyd y gorwedd Charles o'r Bala a Dr. Edwards. Gerllaw dyma fedd Dr. Parry, wedi mynd i mewn i "orffwysfa Duw." A dyma fedd Ioan Pedr, ger bedd ei dad. Y mae tawelwch y nefoedd dros y fro dlos, y mae pob peth mor ddistaw fel y gallwn ddychmygu clywed lleisiau'r byd a ddaw'n gwneyd y byd hwn yn berffaith ddedwydd. Y mae hanes bywyd syml llawer gwladwr ar y cerrig o'n cwmpas, un ddanghosodd trwy ei fywyd beth oedd effaith dysgeidiaeth yr athrawon a'r pregethwyr sydd heddyw mor fud ag yntau ar lan y llyn. Ni fum yn yr eglwys hon erioed heb benderfynu cael diwrnod cyfan i'w dreulio yn ei tawelwch hafaidd, gan dybied fod dwysder y fan fel cawod fendith i'r meddwl lluddedig a therfysglyd.
Ond y mae'r bore wedi mynd. Rhaid oedd i ni droi'n ol ar hyd glan y llyn tua'r dref a Bod Iwan. Wedi cyrraedd y fan lle gadawsom Fichael Jones, troisom o'r dref ar ein chwith, a cherddasom tua'r Coleg sydd wedi ei adeiladu ar fryn uwchlaw y dref. Wedi dringo peth ar ael y bryn, a gadael Coleg y Methodistiaid ar ein de, daethom at y llwybr sy'n arwain at Fod Iwan, a throisom at y ty. Y mae mewn lle tawel a hyfryd, a dwndwr dedwydd mil o wenyn yn crwydro dros y miloedd blodau. Gyda i mi fynd i mewn i'r neuadd, clywsom dinc ar y delyn, — y mae Bod Iwan yn gartref y delyn hefyd. Cawsom groesaw mawr, ac yr oedd yn rhaid i ni giniawa. A dweyd y gwir, yr oeddym wedi anghofio pobpeth am ginio tan y funud honno.
Dywed un o'r trioedd fod dau beth, er dryced ydynt, nas gellir gwneyd hebddynt, — brenin, offeiriad, a gwraig. Yr wyf yn ameu beth yw