Tudalen:Coelion Cymru.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel hyn:

" Mu Wlírech, Moelfrech,
Mu Olfrech, Gwynfrech,
Pedair cae tonfrech,
Yr hen Wynebwen,
A'r las Geingen,
Gyda'r tarw gwyn
O lys y Brenin,
A'r llo du bach
Sydd ar y bach,
Dere dithe, yn iach adre'."

Clywodd hefyd y pedwar ych a oedd yn aredig yn y maes hi yn galw:

"Pedwar eidion glas
Sydd yn y maes,
Deuwch chwithe,
Yn iach adre'."

Atebasant i'r alwad bob un. Daeth hyd yn oed "y llo bach du a oedd ar y bach" yn fyw drachefn. Ymaith â hwy yn gyflym a diflannu yn y llyn.

Gyrrodd hiraeth y meibion yn aml i gymdogaeth y llyn i geisio eu mam, ac un bore daeth hithau atynt i ymyl Dôl Hywel, wrth Lidiart y Meddygon, a dywedyd wrth Riwallon, yr hynaf, mai ei waith ef mewn bywyd fyddai iachau dynion o bob clefydau. Yna rhoes iddo gyffuriau a chyfarwyddiadau, a dangos iddo yn y meysydd bob llysiau rhinweddol.

Daeth Rhiwallon a'i dri mab, Cadwgan, Gruffudd ac Einion, a'u disgynyddion am rai cenedlaethau, yn feddygon medrusaf ac enwocaf yr holl wlad, Gadawsant eu gwybodaeth feddygol mewn