Tudalen:Coelion Cymru.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y maen a'r boncyff cyll yn eu lle fel cynt.

Eglurodd y dyn hysbys mai Arthur Fawr oedd y gŵr urddasol, a'i fod ef a'i filwyr yn cysgu tan eu harfau yn disgwyl i'r dydd wawrio pan fydd rhyfel rhwng yr Eryr Du a'r Eryr Euraid. Y dydd hwnnw deffry Arthur a'i ddewrion a rhuthro ar elynion y Brythoniaid, ac ailfeddiannu Ynys Prydain; yna sefydlu eilwaith y Ford Gron a Llys Arthur yng Nghaerlleon-ar-Wysg.

Afradodd y Cymro ieuanc y baich aur a gafodd, a myned yn dlawd. Dychwelodd eilwaith i'r ogof a'i orlwytho'i hun â'r trysorau, ac wrth ymwasgu allan cyffwrdd â'r gloch, a chanodd hithau.

Deffrodd y milwyr a gofyn "A yw hi yn ddydd?" Yn ei drachwant a'i ofnau anghofiodd y Cymro ateb. Ni wyddai neb beth a ddigwyddodd iddo, eithr ni fu fel dyn arall byth mwy.[1]

Mae Arthur Fawr yn cysgu,
A'i ddewrion sy o'i ddeutu,
A'u gafael ar y cledd:
Pan ddaw yn ddydd yng Nghymru,
Daw Arthur Fawr i fyny
Yn fyw—yn fyw o'i fedd!—Elfed.

OGOF OWAIN LAWGOCH. Yr oedd Owain Lawgoch yn un o Gymry mwyaf rhamantus yr Oesoedd Canol, a gosodir ef weithiau yn lle Arthur yn stori 'Yr Ogof.' Dywedir bod Owain a'i ddewrion yn Ogof Myrddin, yn Sir Gaerfyrddin, yn cysgu dan gyfaredd y Dewin. Pan ddêl 'y dydd,' deffroant

  1. Y Brython, Cyf., I., td. 112-23.