stori Ogof Castell Faen Grach gan yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen. Gwyddai Mr. Morgan am draddodiad yr ogof er ei ddyddiau bore, ac yn 1890 cafodd fanylion y traddodiad gan Mr. Dafydd Dafys, y Rhos, Rhos-y-gell. Yr oedd Dafydd Dafys ar y pryd o drigain i drigain a deg oed, a dywedai fod y stori yn hen cyn ei eni ef.
Y mae Castell Faen Grach gerllaw Pont-ar-Fynach. O edrych i'r gorllewin gwelir mynydd pigfain a gyfyd yn syth o flaen Cwm Rheidol ar ochr Mynydd Bach, ac wrth droed y mynydd pigfain yn wynebu'r briffordd y mae ffermdy Tyn-y-castell. Ar dir y fferm hon y mae Ogof y Trysor Cudd. Yn ôl traddodiad cynnwys yr ogof gyflawnder o aur a gemau, ac agorir hi unwaith yn y flwyddyn gan law anweledig. Caiff y sawl a fo'n ffafryn y duwiau fyned iddi a'i lwytho'i hun â'r trysor, eithr gwae a ddaw i'r hwn a gais fyned i mewn trwy drais, oblegid gwylir hi gan aderyn mawr a gwsg ar ei genau. Os deffry'r aderyn, fe ofyn â llais fel taran, "A aeth y tri bore yn un?" ac i ochel galanas rhaid ateb ar unwaith, "Na, nid aeth y boreau yn un, cwsg." Y mae'r ogof mewn man diarffordd, ac o baidd neb ryfygu cloddio am yr agorfa, daw yn sydyn ystorm ofnadwy o fellt a tharanau. Dywedir i amaethwr Tyn-y-castell ennill ffafr y bodau anweledig a noddai'r ogof. Caled iawn oedd byd Jones, Tyn-y-castell, a methai â dwyn deupen y llinyn ynghyd, ond yn sydyn ac annisgwyliadwy aeth yn ŵr cefnog. Pa fodd yr