farw'n fuan, ond gan fod pawb o'r trigolion yn iach-lawen, bron nad aeth y stori yn angof.
"O'r amryw longau bychain at gario cerrig calch a oedd ym mhorthladd Solfach, aeth un ohonynt i Aber Nolton, tua deng milltir i'r dwyrain. Angorwyd y llong, ac aeth tri o'r dwylo mewn cwch i'r lan, a threfnu dadlwytho. Wrth ddychwelyd i'r llong dymchwelwyd y cwch, a boddi'r tri. James Richards oedd un o'r tri, a dygwyd ei gorff mewn cert i'w gartref yn Fachelich. Gwnaeth Billy John yr arch, a chan fod y ffordd ymhell, trefnodd Francis a'i frawd i ddau arall eu cynorthwyo i'w chario.' Yr oeddem yn benderfynol,' meddai Francis, 'o wneud Wiliet yn gelwyddog. Trefnwyd i'r ddau a'n cynorthwyai gario'r coffìn heibio i dŷ'r Doctor, ond waeth i chi hynny na rhagor, cododd dadl ar ryw fater, ac anghofiwyd Wiliet a mynd heibio i dŷ'r Doctor, a'm brawd a minnau oedd dan y coffin.' "
RHAGFYNEGI MARW A CHLADDU'R PARCHEDIG DAVID JONES, FELIN GANOL. Yr oedd David Jones yn weinidog eglwys gref a berthyn i'r Bedyddwyr yn Felin Ganol, gerllaw Solfach, a chafodd Mr. H. W. Evans yr hanes am broffwydoliaeth Wiliet gan Mr. Samson Williams, Y.H., Solfach, yn 1928.
"Proffwydodd Wiliet y byddai farw'r Parch. David Jones ymhen ychydig wythnosau, ac aeth y broffwydoliaeth fel tân gwyllt trwy'r gymdogaeth. Un nos Sul, a Wiliet yn yr oedfa, ceryddodd Mr,