Tudalen:Coelion Cymru.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weithiau. Un noswaith ar ganol yr ymyfed, a'r cyfaill tan ddylanwad y ddiod i gryn fesur, safodd ar ei draed yn sydyn a llefaru pethau chwithig ac annisgwyl. Disgrifiodd yn fanwl i'w gyfeillion erchyllterau'r brwydro mewn man arbennig ac ar adeg arbennig ar faes yr ymladd, a dywedodd y lleddid llawer, ac y byddai ef ei hun ymhlith y lladdedigion. Tybiai rhai o'r cyfeillion mai effaith y diodydd a barai iddo lefaru, eithr meddyliai eraill nad rhesymol disgwyl gan ddyn meddw lefaru mor groyw a disgrifio mor fyw, a thybient fod rhywbeth cyfrin yn gefn i'r cwbl. Bore trannoeth ni chofiai'r cyfaill na sylw na gair o'r hyn a draethodd, ac ni chofiai iddo lefaru o gwbl. Ymhen tri mis lladdwyd ef a channoedd o rai eraill mewn brwydr ofnadwy. Yr oedd adeg a man y frwydr a'i phoethder yn hollol fel y disgrifiwyd hwy noson y gloddest.

Edrydd Mr. Morgan un arall a berthyn i dras y rhai a nodwyd. Yng Nghwm Ystwyth gweithiai yn y gwaith mwyn plwm fachgen a gynorthwyai hefyd ei fam i drin tyddyn bychan. Pan ballodd y gwaith plwm, bu orfod ar y mab adael cartref am waith ym Morgannwg, a gweithiai yng nglofa Cilfynydd. Un prynhawn, a'r fam yn brysur gyda gorchwylion y tŷ, clywai lais y mab yn y drws yn galw, "Mam." Clywodd y ci yntau y llais, a'i adnabod. "Hawyr bach," meddai'r fam, "dyna Richard wedi dŵad adre' o'r Sowth, heb neb yn ei ddisgwyl." Gan yr oedai'r mab ddyfod i'r tŷ, aeth y fam i'r drws ac edrych. Nid