Tudalen:Coelion Cymru.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Oes" yn "Brutusiana"-"Dewiniaeth, neu Gonsuriaeth, ydyw, y gelfyddyd honno, trwy yr hon yr ymhonna dynion eu bod yn gallu gwneuthur i'r ysbrydion drwg ymddangos, pan dynghedir hwynt i ufudd-dod, ac y gwneir iddynt gwblhau y gorchwylion hynny a orchymynir iddynt gan y dewin." Dysgir hefyd yr un gred gan draddodiad a geir yn Sir Gaerfyrddin ynglŷn â chladdu Dewin Cwrt-y-cadno. Dywedir am y personau a gariai gorff John Harris, y dewin, i fynwent Caio, iddynt deimlo wrth ddynesu at yr eglwys fod eu baich yn ysgafnhau nes myned mor ysgafn ag arch wag. Bernid mai'r rheswm ydoedd i'r diafol feddiannu'r corff, fel y gwnaethai eisoes â'r enaid pan werthodd y dewin ef ei hun iddo.

Cred arall, a mwy cyffredin, ydyw, y gweithreda'r consurwr yn rhinwedd gwybodaeth ddieithr a gaiff mewn hen lyfrau cyfrin na cheir monynt gan neb ond consurwyr. Trwy ddefnyddio'r f llyfrau hyn, llwydda i ddirymu cynllwynion a melltithion rheibesau ac ysbrydion drwg.

Y drydedd gred ydyw, mai etifeddu dawn a chyfryngau'r grefft oddi wrth ei hynafiaid a wna'r consurwr. Dyna'r gred am gonsurwyr Llangurig ac eraill. Edrychir ar y math hwn o gonsurwyr fel cymwynaswyr cymdeithas. Dynion hirben ydynt, a chanddynt ryw allu uwchddynol i fwrw ymaith felltithion a datguddio'r melltithwyr, ac adfer iechyd a diogelu meddiannau. Pan ddigwydd i berson aflwydd nad oes fodd i'w esbonio, megis afiechyd dieithr, neu bruddglwyf trwm, neu