Tudalen:Coelion Cymru.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hir trwy Langurig a thros Eisteddfa Gurig i Fynachlog Ystrad Fflur, ond gwisgwyd eu llwybrau â glaswellt gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Gwnaed llwybrau newydd gan yr anffodus ofergoelus yn ceisio ymwared gan y ' Dyn Hysbys,' ac nid oes laswellt ar eu llwybrau hwy. Y cyntaf o gonsurwyr Llangurig y cefais i ei hanes ydoedd Savage, Troed-y-lôn. Dyn deallus a mawr ei wyrthiau ydoedd hwn. Pan fu ef farw disgynnodd ei fantell ar ysgwyddau John Morgan a oedd yn briod â'i chwaer. Daeth John Morgan i gymaint bri nes ei ystyried gan amryw yn ddewin cyfartal â Harris, Cwrt-y-cadno. Bu farw John Morgan yntau er cymaint ei ddoniau, ac aeth ei gyfaredd anarferol yn eiddo perthynas arall, sef Evan Griffiths, Pant-y-benni, y sydd tua dwy fìlltir i'r deau o Langurig. Ychydig tros ddwy flynedd yn ôl, bu farw gŵr Pant-y-benni hefyd, a disgynnodd ei fantell ar nai iddo a breswylia yn awr ym Mhonterwyd. Clywais fod y consurwr newydd yn mawrhau ei swydd, a'i fod mor brysur a llwyddiannus ag y bu ei ewythr.

Y WRAIG HYSBYS. Dywaid y Doctor William Howells glywed ohono am Wraig Hysbys a breswyliai yn un o bentrefi Sir Benfro, a rhydd hanesyn digon cyffredin yn enghraifft o'i gweithredoedd 6 anghyffredin.' Bu bachgen difeddwl a direidus yn lladrata afalau o ardd yr hen wraig. Gwybu hithau fel Gwraig Hysbys am y trosedd, a pheri i felltith ddisgyn arno. Aeth y bachgen yn afiach