Tudalen:Coelion Cymru.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

" Y mae plwyf Ysgeifiog yn enwog ers tro byd am ei ' Ddynion Hysbys', ac y mae yno un yn awr. Wele enghraifft o waith dyn hysbys a fu farw yn 1936:

"Aeth nith iddo ato a chwyno y methai yn ei byw â gweithio llaeth yn ymenyn. Parodd yntau i'r corddiad nesaf fod am hanner awr wedi un ar ddeg ar ddydd arbennig, ac y byddai ef yno tua chanol dydd. Daeth y dydd. Edrychodd y dyn hysbys yn graffus i bob rhan o'r ystafell, ac yna gorchymyn yn awdurdodol atal y corddi am ychydig. Trodd yn hamddenol a defosiynol ac edrych i'r gogledd a'r dwyrain, i'r deau a'r gorllewin, a syllu yn hir megis i'r gwagle pell. Parodd wedi hyn godi caead y fuddai, a gofyn am gyllell fwrdd. Craffodd ar y llaeth, a thorri ynddo â'r gyllell lun croes. Am beth amser bu'n mwmian rhyw ddewiniaeth wrtho'i hun. Yna gorchymyn ailgychwyn y corddi. Daeth yr ymenyn yn ddiatreg, ac ni chafwyd trafferth mwy.

"Y mae un yn byw yn awr yn yr un plwyf a gyfrifir yn Ddyn Hysbys. Wele enghraifft o'i waith yntau: Yn Chwefror 1930, yr oedd amaethwr mewn cryn ddryswch a phryder oherwydd colli ei ddefaid, ac aeth at y Consurwr, a mynegi ei gwyn. Eglurodd y trengai nifer o'i ddefaid yn ddyddiol heb arnynt arwydd unrhyw lesgedd. Trefnwyd adeg i'r Dyn Hysbys ymweled â'r tyddyn. Wedi cyrraedd, parodd i'r amaethwr ei arwain i fan y tybiai ef ei fod tua chanol ei dir, ac yno penderfynodd ar y pedwar pwynt, a phlannu