Gwirwyd y dudalen hon
ei ffon yn y ddaear. Gwnaeth gylch o ryw bum llath ar hugain ar draws. Safodd am eiliad ar bob un o'r pedwar pwynt, ac edrych yn synllyd i'r gwagle. Yna taflodd allan ei law fel petai'n gwthio rhyw aflwydd i ffwrdd. Gwnâi y cwbl mewn distawrwydd ac â defosiwn mawr. Symudodd y Consurwr y felltith o'r tir, ac ni threngodd defaid mwyach."