Tudalen:Coelion Cymru.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X
SWYNION (CHARMS)

Yn ôl yr ymchwil a wnaed i hanes chwedlau a hen goelion y deyrnas hon, ceir bod eu gwraidd yn ôl ymhell yn y Dwyrain. O'r Dwyrain y daeth inni lawer o'n pethau gorau a salaf. Methu a wnawn o gredu bod elfennau'r coelion yn seiliedig ar syniadau a berthynai yn neilltuol i un bobl neu genedl. Tyfasant o syniadau a oedd yn gyffredin i bobl ar ris isaf gwybodaeth a diwylliant ym mhobman drwy'r byd. Mewn llawer o storïau llên gwerin ceir amryw bethau a ymddengys inni yn amhosibl ac yn chwerthinllyd o wrthun, ond ni ddylid synnu at y pethau hynny, eithr yn hytrach gofio iddynt darddu o gyflwr meddwl a oedd â'r dychymyg yn anhraethol gryfach na'r rheswm. Dywaid Syr George Webbe Dasent mai o'r un ddaear y tyfodd llawer o storïau y wlad hon â rhai holl genhedloedd Ewrop. " Daethom ni, pobl y Gorllewin," meddai, "o'r Dwyrain. Yr ydym o'r un gwreiddyn."[1] Wrth ymdrin â swynion yn y bennod hon rhaid bwrw golwg ar amryw bethau plentynnaidd, a rhai pethau a bair friw i deimlad a rheswm y sawl a fo'n orlednais a mindlws. Purion peth i hwnnw fyddai cofio nad meddwl y Cymro yn unig yw daear eu gwraidd. Dysg Mrs. David-Neel mai rhan fawr o grefft a dyletswydd holl Lamas—offeiriaid neu

  1. 1 Popular Tales from the Norse, Syr G. Webbe Dasent (1883) td. 31.