Tudalen:Coelion Cymru.pdf/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Clefyd y Galon yntau. Prif nodweddion y clefyd ydyw pwysau trwm yn y fynwes, yn gwneuthur anadlu yn anodd ar adegau, musgrellni yn yr holl gorff, a phruddglwyf dwfn yn peri bod byw yn beth diflas a diamcan. Pan fo'r clefyd ar ei eithaf bydd lliw'r croen yn byglyd, a gwyn y llygaid yn troi'n felynllwyd. Teimla'r claf ar y pryd nad yw bywyd yn werth ei fyw, ac weithiau peidia â byw, o'i fodd, a thrwy ei law ei hun. Nid yw'r pethau hyn oll namyn nodweddion. Y mae'r drwg yn y galon —calon tan faich siom a dolur. Cred llawer nad oes feddyg proffesedig yn bod, pa faint bynnag fo'i wybodaeth a'i brofiad, a fedr gyffwrdd â'r clwyf hwn, ac eir yn ddiymdroi at berson â chanddo ryw ddawn gyfrin a'i cymhwysa i "dorri clefyd y galon."

Prif offeryn y " Torrwr " ydyw edau wlân, ac fel hyn y gweithreda yn y bröydd y bûm i byw ynddynt:—Mesur yr edau o'r penelin i flaen bys canol y llaw, a mesur deirgwaith, ac os ymestyn a wna'r edau y trydydd tro, bydd hynny yn brawf sicr fod y " clefyd " yn ddrwg ar y claf, eithr os byrhau a wna'r edau y trydydd tro, gwelir mai afiechyd arall sydd ar y claf. Pan geir prawf o ' glefyd y galon,' rhwymir yr edau am fraich y dioddefydd, a'i gadw yno hyd oni chaiff wellhad. Wrth gwrs, rhoddir moddion i'w yfed, ond bydd hynny i'r diben o brysuro'r gwellhad. Mesur yr edau sy'n " torri"'r clefyd. Y moddion y clywais i ddiwethaf