Tudalen:Coelion Cymru.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'r medelwyr mewn taflu'r cryman at y Gaseg ar fferm ei dad yng nghanolbarth Ceredigion. Ei ddisgrifiad ef o'r ddefod ydyw: " Fe adewid rhyw droedfedd ysgwâr o'r cae diweddaf oll heb ei dorri. Wedyn fe blethid pen y tusw hwn, ar ei sefyll fel yr ydoedd, yn ' bleth dair.' Safai pawb wedyn ryw ddeg llath neu fwy oddi wrtho, a thaflai pob medelwr yn ei dro ei gryman ato, a'r sawl a'i torrai'n llwyr fyddai raid cario'r tusw i'r tŷ. Y gamp oedd taflu'r tusw hwnnw i'r ford swper heb i neb o'r merched oedd o gylch y tŷ ei weled; waeth os dôi'r merched i wybod gan bwy yr ydoedd, hanner boddid ef a dŵr, ac ond odid na theflid ef yn rhondyn- i'r llyn! Pan oeddwn yn paratoi'r papur hwn mi welais adolygiad ar lyfr yn y Daily News and Leader, yn ymdrin â'r mater hwn ymhlith pethau eraill. Ni ddyfynnwn ychydig ohono ar y pen hwn:—

The common European superstition that whoever cuts the last corn must die soon is probably a faint reflection of the ancient rite of killing the corn spirit in the person of the last reaper; and we are told that till lately in Pembrokeshire the men used to aim their hatchets at the last " neck" of corn left standing, and afterwards belabour or handle roughly the man who was caught with the "neck" in his possession.?[1]

Gwahaniaethai'r ddefod beth yng ngwahanol

  1. Y Geninen, Cyf. XXXIII., td. 250. Ysgrif y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D.