Chwi gewch yno roeso, 'rwy'n gwybod, o'r hawsaf,
A bara a chaws ddigon, ond e mi a ddigiaf;
Caiff pawb ei ewyllys, dybaco, pibelli,
A diod hoff ryfedd, 'rwyf fi wedi'i phrofi.[1]
Y nos cyn y briodas cynhelid yr hyn a elwid yn "Ystafell," a deuai cyfeillion iddi â rhoddion— rhai yn "talu pwythion," ac eraill yn rhoddi rhoddion nad oedd hawl arnynt. Weithiau cynhwysai'r anrhegion ddodrefn tŷ, arian ac enllyn.
Dywaid Mr. Thomas Thomas, Ceinionfa, Aberystwyth, y byddai priodas y rhai uchelradd ar geffylau, ac eiddo'r gweddill 'ar draed,' ac wrth gwrs yr ail oedd y fwyaf cyffredin a phoblogaidd. Bu ef mewn tair priodas 'ar draed ' tua thrigain mlynedd yn ôl yn ardal Pont-ar-Fynach, a chyn belled ag y cofia ef, fel hyn y gweithredid. Yn lled fore ddydd y priodi ymgasglai'r gwahoddedigion, y gwŷr ieuainc yn nhŷ'r priodfab, a'r merched yn nhŷ'r briodasferch. Yna anfonid cynrychiolaeth gref o dŷ'r mab i geisio'r ferch. Yn gyffredin byddai ymryson llafar mewn rhyddiaith a barddoniaeth rhwng y rhai oddi allan a'r rhai oddi mewn i'r tŷ. Pan lwyddai cyfeillion y mab, arweinid y briodasferch ym mreichiau dau o'i pherthynasau i'r eglwys, eithr weithiau byddai helynt arw, oblegid ar bob croesffordd neu agorfa o'i llwybr gwnâi'r ferch bob ymdrech i ddianc. Ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys, rhedai'r llanciau
nerth eu traed i ystafell y wledd i fynegi'r newydd.
- ↑ Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 21. Cf. " Gwinllan y Bardd," (1906) td. 278-281.