Tudalen:Coelion Cymru.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd adeg lawenach yn bod na noson gwneuthur cyflaith. Yn ystod y berwi adroddid storïau a chenid hen alawon, a byddai hwyl fawr hyd oriau'r bore.

Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhelid y Plygain neu'r Pylgain yn rheolaidd yn yr eglwys blwyf, ac weithiau yng nghapelau'r eglwysi eraill. Cyfarfod crefyddol ydoedd, a gynhelid cyn dydd fore'r Nadolig, i'r diben o goffáu dyfod Iesu Grist i'r ddaear. Ceid ynddo lawer o ganu a gweddïo a diolch, a rhyw fath ar bregeth neu anerchiad byr. Yn nyddiau bri'r Plygain yr oedd canu carolau yn rhan hanfodol ohono, eithr ni chlywais i erioed ganu carol mewn na Phlygain nac unman arall. Erbyn fy nyddiau bore i, nid oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng Plygain a chyfarfod gweddi cyffredin. Pan oeddwn yn llanc bûm rai troeon ym Mhlygain Eglwys Llancynfelyn, ond ni ddeuai bendith i ni'r plant, oblegid aem yno o weithio cyflaith â chlyffiau o'r trwyth melys yn ein llogellau, ac ni wnaem fawr mwy yn yr eglwys na bwyta a chysgu. Ni wn am un capel ymneilltuol lle y cynhelir y gwasanaeth yn awr ond capel yr Eglwys Fethodistaidd, Wesleaidd gynt, sydd ar odre hen gastell Carreg Cennen, yn Nyffryn Llwynyronnen, bedair milltir o Landeilo Fawr. Cynhelir y Plygain yno yn gyson ar hyd y blynyddoedd.

Y mae'r hen arfer o Gasglu Calennig mewn cryn fri o hyd. O doriad gwawr hyd ddeuddeg o'r gloch ddydd Calan, ceir y plant yn brysur yn