hen ddiflasu, ond a phawb ar fin gadael y lle, clywai'r cloddwyr sŵn curo diarbed ychydig o'u blaen. 'A! ' meddent,' dyna sŵn y nocars; nid yw'r metel ymhell.' Yn fuan, fuan, trawyd ar dalcen mawr o blwm. Talodd y talcen ar ei ganfed am flynyddoedd."
Nid ydynt yn eu cyfyngu eu hunain i'r gweithfeydd mwyn plwm. Gweithiant hefyd yn y glofeydd. Y mae'n anos clywed eu curo yno yn arbennig mewn glofa fawr, oherwydd maint sŵn gweithio'r pwll. Ym mhwll glo'r Morfa credid yn gryf ynddynt. Curent i gyfarwyddo'r glowyr at wythiennau da o lo, a gweithient yn wastad o blaid y glowyr.[1]
Dywaid Writ Sikes y disgrifid y coblynnau gan fwynwyr Cymru yn fodau bychain, hyll, tua hanner llath o daldra, a'u bod o natur dda ac yn gyfeillgar iawn â'r gweithwyr.[2] Eithr yn ôl pob hanes y maent yn anweledig, ac ni chlywais erioed eu disgrifio. Ceir bodau bach sy'n cyfateb i'r coblynnau o ran arferion yn gweithio yn y mwyafrif o byllau cyfandir Ewrop, megis yng ngweithfeydd yr Almaen.
BODAU ANWELEDIG YN PENDERFYNU SAFLEOEDD EGLWYSI. Perthyn rhai o nodweddion y Coblynnau i'r bodau anweledig hyn, eithr llefaru a wnânt
hwy, a gweithio o blaid crefydd yn unig. Eu prif