Tudalen:Coelion Cymru.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae ganddi ryw fedr anarferol i ymguddio. Ni chlywais erioed am fwy nag un a'i gwelodd. Efallai y cymer ei lle yn y bennod hon cystal ag unman.

Y mae ynglŷn â Chors Fochno gryn lawer o ddeunydd llên gwerin, mwy fe ddichon nag a berthyn i unrhyw gors arall yng Nghymru, ac nid oes bod i'r Hen Wrach ar wahân iddi. Oherwydd y pethau hyn, teimlaf y dylid rhoddi peth o hanes y gors.

Cors fawr ydyw, a hynod o ran ei chynnwys a'i hanes,—mawr o ran maint, oblegid ymestyn o'r Borth i afon Llyfnant, terfyn gogleddol Sir Aberteifi. Y mae ei hyd 'fel yr heda'r fran,' neu'n fwy naturiol, fel yr eheda iâr ddŵr, yn chwe milltir, a'i lled yn dair milltir o odre'r mynydd, sy'n rhan o gadwyn Pumlumon, i relwe'r Cambrian (gynt) sydd fel llinyn ar draws ei hwyneb, rhyngddi a Dyfi a'r môr. Ar ei chanol y mae math o ynys led fawr, ac arni rai ffermydd da, a cheir hefyd ambell dŷ annedd, a hen waith mwyn plwm sy'n segur ers ugeiniau o flynyddoedd. Ond y mae'r gweddill o'r gors, a'r rhan fwyaf ohoni, yn siglen ddiwaelod a pheryglus. Tyf arni frwyn cryf a hesg sidanaidd, ac yma a thraw glystyrau o helyg. Nid oes yn bod gartref diogelach i'r geinach a'r hwyaden wyllt a'r crychydd glas, oblegid ni ddeil rhannau helaeth o'i chroen tenau fawr ddim trymach na phryf ac aderyn. Iddi hi hefyd y daw'r gog gynnar, ac ohoni, o odre coed y Gwynfryn, y daw ei chân gyntaf i drigolion dau blwyf.