ymddangosiad ysbrydion, ond petai yn yr un heol ddau dŷ gwag cyn debyced i'w gilydd ag efeilliaid, a bod sôn yr ymwelai ysbryd ag un ohonynt, ni chymerai imi eiliad i benderfynu ym mha un y carwn fyw."
Y mae barn trigolion gogledd Ceredigion am bopeth ysbryd yn un bendant a sefydlog, ac fe wyddant hwy lawn cymaint â neb am nodweddion y bodau cyfrin hyn. Credir nad oes ond tri rheswm tros i ysbryd ymddangos. Yn gyntaf, dychwelyd i wneuthur cymwynas â pherthynas neu gyfaill; yn ail, ymddangos i gyflawni rhyw ddyletswydd a esgeuluswyd ganddo yn ystod ei fywyd ar y ddaear; ac yn drydydd, dial ei gam ei hun, megis pan ddychwel un a lofruddiwyd i ddial ar y llofrudd. Ni phaid ysbryd ag ymddangos o dro i'w gilydd hyd oni siaredir ag ef, ac y mae'n groes i ddeddfau byd ysbryd iddo ef siarad yn gyntaf. Rhaid ei annerch yn enw'r Drindod, ac yn ddiatreg eglura yntau ei neges, ac o weithredu yn ôl ei gyfarwyddiadau, paid yntau ag ymddangos mwy.
Y mae cannoedd o ystorïau ysbryd hen a diweddar, ond nid oes ofyn yma ond am ychydig enghreifftiau dethol. Anaml y gwelir plas hen neu furddun plas na chysylltir ag ef stori ysbryd. Murddun ers tro ydyw Bro Ginin, y plas bychan y ganed Dafydd ap Gwilym ynddo. Rhywbryd wedi dyddiau'r bardd trowyd y plas yn ffermdy, a hynny efallai oherwydd esgyn o amaethyddiaeth ac amaethwyr i fri mwy na chynt. Bu'n byw