Tudalen:Coelion Cymru.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddo o genhedlaeth i genhedlaeth deuluoedd parchus, a dedwydd oeddynt hyd oni flinwyd hwy gan ysbryd bonheddig a barus a wnâi fywyd yn boen. Yn fynych wedi nos, ac ar brydiau yn hwyr o'r nos, ymwelai rhyw fod annaearol â'r tŷ, ac â sŵn ei gerdded i fyny ac i lawr y grisiau gwnâi gwsg yn amhosibl. Taflai ddychryn i galon pawb. Weithiau goleuai'r holl dŷ â disgleirdeb anarferol, a'r funud nesaf diflannai gan adael ar ei ôl dywyllwch eithaf. Gwelid ef ganol nos ar brydiau gan weision y ffermydd cylchynol, yn croesi'r buarth ar ffurf 'Ladi Wen' dal a hardd mewn gwisg laes, eithr pan aent tuag ati diflannai mewn pelen o dân. Un nos Sul fin gaeaf, aeth y teulu i'r eglwys a gadael y forwyn i warchod. Ceisiodd hithau ei chariadfab yn gwmni, ac yn ddigon naturiol aethpwyd i sôn am yr Ysbryd. Chwarddai'r gŵr ieuanc ar uchaf ei lais yn ei awydd i brofi ei wroldeb, a dywedyd yr hyn a wnâi petai'r Ysbryd yn meiddio ymddangos iddynt. Ar drawiad, heb y rhybudd lleiaf, safodd boneddiges ar ganol yr ystafell, mewn gwisg wen, a'i gwallt yn dorchau dros ei hysgwyddau. Daliai mewn un llaw grib, ac yn y llall sypyn o bapur, ond nid ynganodd ddim. Crynai'r ddeuddyn ieuainc gan ormod braw i allu symud na dywedyd gair. Cerddodd y foneddiges yn hamddenol o gwmpas yr ystafell amryw droeon, ac yna sefyll, a throi at y drws ac amneidio ar y llanc i'w dilyn. Ni feiddiai yntau ei gwrthod, a dilynodd hi i fyny'r grisiau i ystafell dywyll a oleuwyd ar unwaith mewn modd gwyrthiol