Magodd y gŵr ieuanc ddigon o wroldeb i ofyn iddi paham y blinai breswylwyr Bro Ginin, ac â'i bys pwyntiodd yr Ysbryd at gongl neilltuol dan y to isel. O'r man hwnnw, â llaw grynedig, tynnodd y llanc hosan wlân hen hen yn llawn o aur. Diflannodd yr Ysbryd, ac ni welwyd y ' Ladi Wen ' byth mwy ym Mro Ginin.[1]
Ceir o bob rhan o'r wlad storïau cyffelyb i un Bro Ginin. Yn 1882, cafodd y Parchedig Elias Owen gan John Rowlands, brodor o Sir Fôn, hanes ysbryd yn datguddio trysor yn ei ardal ef. Poenid teulu Clwchdyrnog, ym mhlwyf Llanddeusant, Môn, yn fynych gan Ysbryd a barai arswyd a blinder mawr. Un noson, ymwelai John Hughes â'r tŷ i garu'r forwyn, ac ymddangosodd yr Ysbryd iddo. Gofynnodd John paham y blinai'r teulu ac eraill. Atebodd yr Ysbryd fod trysorau cuddiedig, ar ochr ddeau Ffynnon Wen, a berthynai i blentyn naw mis oed a oedd yng Nghlwchdyrnog. Parodd iddo chwilio am y trysorau, ac o'u cael a'u rhoddi i'r plentyn addawodd yr Ysbryd beidio ag aflonyddu arnynt mwy. Gwnaed yn ôl y cais, a chafwyd heddwch.[2]
A barnu oddi wrth yr hanes a rydd Mr. D. E. Jenkins hoffai ysbrydion ymddangos ym Meddgelert a'r cylch. Tua diwedd y ddeunawfed
ganrif, aeth Mr. Dafydd Pritchard i'r pentref a