â gwneuthur ewyllys. Cymaint yw'r pryder a'r siom fel y dylai'r sawl a fedd rywbeth gwerth ei feddiannu roddi ei ddymuniadau ar 'ddu a gwyn' cyn yr elo ac na byddo mwy. Yn 1923 adroddai Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth, wrthyf stori a gred hi fel ffaith. Pan oedd hi'n blentyn, bu farw yng Nghnwch Coch, Ceredigion, hen wraig â chanddi beth cyfoeth, eithr yr oedd wedi esgeuluso gwneuthur ei hewyllys, ac er chwilio dyfal a hir methwyd â dyfod o hyd i'w thrysor. Ymhen amryw wythnosau, blinodd y perthynasau ar y chwilio a diflannodd eu gobaith. Ond un noswaith ddechrau'r gaeaf, a'r ferch a'i phriod yn ymdwymo wrth y tân mawn cyn myned i orffwys, daeth o'r Hanging Press a oedd yn yr ystafell sŵn dieithr fel sŵn crafu creadur byw am ymwared. Agorwyd y Press, ond nid oedd yno ddim namyn dillad. Nos trannoeth a llawer nos arall, clywid yr un sŵn, eithr er chwilio eilwaith ni welwyd neb na dim byw. Aeth ofn gweled y nos ar y ddeuddyn ieuainc, ac i ladd y braw ceisiasant gwmni cymdogion. Ar ôl ymgynghori, penderfynwyd tynnu o'r Press liw dydd bob pilyn a oedd ynddo. Pan gyrhaeddwyd y gwaelod cad yno sypyn trwm yn cynnwys aur lawer a thrysorau eraill. Ni chlywyd y sŵn o'r Hanging Press byth mwy.
Ymhlith y lliaws ystorïau ysbryd a geir yn llyfr rhagorol yr Athro T. Gwynn Jones ar Lên Gwerin, y mae un sy'n arbennig drawiadol ar gyfrif y personau a gysylltir â hi, yn ogystal ag ar