holl gyfoeth. Gafaelodd yn llaw farw'i briod i'w harwyddo. Ni chafodd Thomas Jones eiliad o hawddfyd byth wedyn. Poenwyd ef gan ysbryd ei wraig, a elwir "Ysbryd y Castell," ddydd a nos tra fu byw.
GWAREDIGAETH PREGETHWR. Nid oes yn awr fawr ddim ond cerbydau modur a beiciau gwyllt a bair ofid a pherygl i bregethwyr ar eu teithiau, ond ganrif yn ôl ymosodid arnynt gan ladron penffordd, a thrinid ambell un yn galed. Eithr oherwydd eu swydd, neu, efallai, oherwydd eu hanallu i'w hamddiffyn eu hunain, gofalai rhywun neu rywbeth o fyd yr ysbrydion am eu diogelwch weithiau. Ceir hanes trawiadol am waredigaeth John Jones, Treffynnon, o enbydrwydd mawr tros ganrif yn ôl. Teithiai'r hen bregethwr gryn lawer i gasglu at godi capelau, ac un tro, ar ei ffordd i Fachynlleth â phedair punt ar ddeg yn ei logell, galwodd mewn tafarn yn Llanuwchllyn. Tra porthid ei geffyl ymgomiai yntau â pherson a oedd yn y tafarn, a mynegi y bwriadai fyned ar ei daith tros Fwlch-y-groes. Pan gyrhaeddodd y teithiwr ben y mynydd unig, gwelai o'i flaen ddyn â chryman yn ei law a'i fin wedi ei rwymo mewn gwellt. Wrth ddynesu at y dyn, gwelai mai'r hwn a gyfarfu yn y tafarn ydoedd, a bod rhywbeth yn amheus yn ei ysgogiadau. Edrychai'n llechwraidd tros ei ysgwydd yn awr ac eilwaith, ac yn y man dechreuodd dynnu'r gwellt oddi ar fin y cryman. Daeth ofn mawr ar yr hen bregethwr, a