ar yr amod iddo ef gael y peth byw a'i croesai gyntaf. Cytunodd Megan, a gweithiwyd y bont mewn eiliad. Tynnodd yr hen wraig grystyn bara o'i llogell a'i daflu tros y bont newydd, a rhuthrodd y corgi a oedd yn ei hymyl ar ei ôl. Dyna dâl y diafol am ei waith.
Ceir yr un traddodiad ynglŷn â hen bont Aberglaslyn. Ceisiodd trigolion y gymdogaeth gan Robin Ddu Ddewin godi iddynt bont dros y Llyn Du. Galwodd Robin y diafol a mynegi ei neges. Addawodd yntau weithio pont os cawsai'r creadur cyntaf a elai trosti. Cytunwyd. Ymhen ychydig ddyddiau, a Robin uwchben ei gwrw yn nhafarn yr Aber, aeth y cythraul i mewn a dywedyd bod y bont wedi ei gorffen. Trawodd Robin glwff o fara yn ei logell, a myned â chi'r dafarn i'w ganlyn i lan yr afon. "Dyma iti bont tan gamp," meddai'r diafol. "Ymddengys felly," meddai Robin, "ond a ddeil hi bwysau'r clwff hwn, tybed?" "Rho brawf arni," meddai'r cythraul. Taflwyd y bara, a rhuthrodd y ci ar ei ôl. "Pont gampus," meddai Robin, "cymer y ci yn dâl amdani."[1]
YSBRYD MWYNGLAWDD. Tua dau gan mlynedd yn ôl, darganfuwyd gwythïen enfawr o blwm ym mhentref Helygain. Cyffelybid hi i haen drwchus o lo. Y mae amryw draddodiadau ynglŷn â'r mwyn hwn, eithr y mwyaf cyffredin ydyw hwnnw
- ↑ Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899)