Tudalen:Coelion Cymru.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymdogion. Cerddai ganol y ffordd rhag taro'r cloddiau. Yn sydyn, teimlai ei wasgu i'r clawdd gan bwysau rhywbeth anweledig. Clywai sŵn fel sŵn torf yn myned heibio, eithr ni welai neb. Er pob ymdrech nid oedd fodd ymgadw rhag y clawdd, a lled-orweddodd hyd oni ddarfu'r sŵn a myned o'r dorf heibio. Ar ôl ei ryddhau a cholli peth o'i ofn, gwybu gyfarfod ohono â Thoili. Ymhen ychydig ddyddiau aeth angladd y ffordd honno, ac adnabu Thomas Morgan y sŵn a glywsai pan wasgwyd ef i'r clawdd. Er clywed o Mr. Jenkins yr hanes amryw droeon pan oedd yn fachgen, metha â chofio enw'r person a gladdwyd.

Nid oes fwy na thrigain mlynedd er pan âi Marged Humphreys, Cnwch Coch, un noson, i lawr drwy Lôn Harri i Lanfihangel-y-Creuddyn. Ar ben Lôn Harri cyfarfu â Thoili, a bu bron a mygu gan wasgu'r dorf. Adnabu Marged yr elorgerbyd a'r gyrrwr, ac wrth ei ochr gwelai'n eistedd ŵr Troed Rhiw Bwba. I Benllwyn, gerllaw Aberystwyth, y perthynai’r elorgerbyd. Ymhen ychydig wythnosau yr oedd Marged yng nghladdedigaeth gwraig o'i hardal, a gwelai yno yr un cerbyd a'r un personau ag a welsai yn y Toili ar ben Lôn Harri. Cefais yr hanes hwn yn 1920, gan wraig ddeallus a oedd yn byw yn Aberystwyth.

Y mae'r hanesyn a ganlyn a gefais gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) yn perthyn i'r un dosbarth.