Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn Towyn, os wyf yn cofio yn iawn, pan oedd y pregethwr a'r gwrandawyr wedi llwyr anghofio eu hunain, ac yn ymdroi mewn dagrau. Ni allasai neb oedd yn bresenol yn yr oedfa hono, ei anghofio byth meddai Mr. Llwyd.

Fel y bu byw, felly hefyd y bu farw, yn araf, yn bwyllog, a thawel. Yr un fath olwg oedd arno yn marw, ag oedd arno yn y llys yn rhoddi ei dystiolaeth y diwrnod hwnw, neu yn yr areithfa, cyn ac wedi pregethu, llawn hunanfeddiant. "Yr ydych yn yr afon Mr. Jones," ebai cyfaill wrtho ychydig cyn iddo ei chroesi, "Ha, ie, wel ydwyf," eb efe "Ond y mae hi'n braf iawn yma." Ië, "yn braf iawn," ond hi aeth yn brafiach o lawer iawn arno wedi iddo ei chroesi i'r ochr arall.

Bellach hen batriarch, hybarch, a hoff. Bydd wych! Gorphwysed dy ben gwyn yn dawel yn y llwch, hyd wawr dydd y dadebru a'r codi. Teimlwn chwithdod i feddwl na chawn mwyach weled dy wedd radlawn, na mwynhau dy gyfeillach fwyn ac adeiladol yr ochr hon i'r bedd. Diangaist oddiwrthym ni at frodyr anwyl a chydlafurwyr ffyddlawn yn y weinidogaeth, y rhai a ragflaenasent, lle y mwynhai gyfeillach well a phurach heb ymadael mwy.

"Diangaist i'r bedd, ni alarwn am danat,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;
Ei ddorau agorwyd o'r blaen gan dy Geidwad,
A'i gariad wna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.

"Diangaist i'r bedd, ni welwn mwy'th wyneb,
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd ar ddydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist."