Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

Y DUWINYDD.

Pwysigrwydd gwybodaeth Dduwinyddol—Safle gwrthddrych y cofiant hwa fel Duwinydd Ei fanteision boreuol—Dr. Williams ac eraill— y Calfmaid cymhedrol Cymreig—"Y Llyfr glas "—Cychwyniad y Dysgedydd Y cytundeb cyntaf—Ei neullduad ef i'r olygiaeth— Etholeligaeth gras Cynrychiolaeth Adda—Athrawiaeth yr Iawn— Dylanwad yr Ysbryd Glan Natur Eglwys—Bedydd—Ei neullduolion Diwinyddol.

Gwybodaeth Dduwinyddol yw y bwysicaf o bob gwybodaeth y gall dyn gael gafael arni. Deil berthynas ag ef yn y byd hwn, a deil berthynas ag ef yn y byd arall yn oes oesoedd. Ynddi y mae "geiriau bywyd tragywyddol" dyn. Er y gellir yn eithaf priodol ddosranu Duwinyddiaeth yn wahanol ganghenan, etto, un yw hi wedi y cyfan. Trwyddi hi y daw dyn yn adnabyddus â Duw, o ran ei Fodolaeth a'i Briodoleddau gogoneddus. Trwyddi hi y eyrhaedda syniadau teilwng am arfaeth a chynlluniau y Goruchaf. Hyhi a'i dysg am lywodraeth foesol yn ei natur, ei deddfau, ei chymhellion, ei gweinyddiad, ei gwobrau, a'i chospau; ac am dano ei hunan, fel deiliad y llywodraeth hono; seiliau ei gyfrifoldeb am ei holl ymddygiadau; a'i sefyllfa andwyol fel pechadur yn erbyn yr Arglwydd. Duwinyddiaeth sydd yn dangos beth yw natur pechod, gwreiddiol a gweithredol, ar un llaw, natur a rhinwedd, ar y llaw arall. Trwyddi hi y ceir esboniad ar y cyfamod a wnaeth Duw â'r Adda cyntaf, a'r cyfamad a wnaeth efe a'r Adda diweddaf, hefyd ynddi hi yr eglurir y goruchwyliacthau neu y cyfamodau a wnaeth Duw a dynion o bryd i bryd wedi y cwymp. Duwinyddiaeth sydd yn agor ger ein bronau holl drefn fawr ein Hiachawdwriaeth. Eglura i ni Berson rhyfedd y Gwaredwr, yr Iawn anfeidrol dros bechod, Galwad yr efengyl, Dylanwad yr Ysbryd Glân, Dychweliad pechaduriaid, Adenedigaeth, Ffydd a chyfawnhad, Santeiddhad a gogoneddiad y saint, a chosp dragywyddol yr annuwiolion. Clywsom rai cyn hyn yn ceisio bychanu a gwawdio ymdrechiadau rhai eraill i gyraedd syniadau cywir a chyson ar byngciau Duwinyddol; ond nid yw geiriau gwatwarus y