Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ragoriaethau. Bydd ei ddywadiadau gynghorion yn fy nghalonogi yn aml. Nid oes neb y byddaf yn cofio mwy o'i sylwadau na'r eiddo ein parchus gyfaill a thad.

Er mai amser byr y cefais aros yna, eto cefais lawer o'i gymdeithas, a theimlais lawer o'i wres. Ac nid gwres yn unig a berthynai iddo, ond goleuni hefyd. Cysegrai bob peth a feddai i oleuo eraill. Yr oedd ganddo stôr helaeth o wybodaeth, cof cryf i'w thrysori, a medr arbenig i'w gosodi allan i'r fantais oreu, ond yr hyn a goronai y cyfan oedd ei ymgysegriad hollol i ddyrchafu crefydd a'i Dduw. Fel ei Waredwr, gallwn ddweyd am dano fod ei "fywyd yn oleuni dynion." Gallwn ni bellach fentro ei ganmol, oblegid y mae Duw erbyn hyn wedi ei ogoneddu. Y mae wedi cael ei gymeryd oddiwrth ei waith at ei wobr, wedi ei wneyd yn gymwys i fwynhau cymdeithas y saint yn y goleuni, a'r Anweledig, yr hwn yr oedd yn ei garu wedi dyfod yn Weledig.

XII

Mr. John Edwards, Pendleton, Manchester.

Diameu eich bod yn teimlo y byd wedi myn'd yn wag iawn i chwi ar ol colli priod mor anwyl a difyr—un mor hynod mewn llawer ystyr. Yr ydym ninau yn teimlo yn bur chwithig na chawn ei weled mwy ar y ddaear, ei wyneb siriol a'i ymddiddanion a'i ystoriau hapus. Yr oedd yn gwasgaru llawenydd lle bynag y byddai. Colled fawr i'r byd hwn, ond enill er byny iddo ef, a'r byd mawr ysbrydol. O mor ddedwydd ydyw arno ef erbyn hyn, cael gweled yr Hwn a garai mor fawr ac a wasanaethai mor ffyddlon, fel ag y mae, a bod hefyd yn debyg iddo. Yr oedd yn bleser i ni glywed iddo gael claddedigaeth mor hynod o barchus a lliosog. Nid oedd, fodd