Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anwyl a'r hoffus, Mr. Rowland * * * * Cafodd ei ddigoni â hir ddyddiau. Wel, yr wyf yn teimlo fod haner Pennal wedi myned.

XVII.

Mr. David Jones, Llys Arfon, Caernarfon.

Yn y Goleuad heddyw y gwelsom gyntaf am y brofedigaeth lem yr ydych ynddi, oherwydd colli eich anwyl Dafydd. Yr ymddiddan diweddaf fu rhyngom a'n diweddar weinidog, Dr. Hughes, oedd yn eich cylch chwi. Yr oedd yn dweyd gyda blas, ei fod wedi rhoddi ei gyhoeddiad yn Mhennal, nos Lun o flaen Sassiwn Aberdyfi, gan ddisgwyl llawer o fwynhad yn eich cwmni chwi eich dau. Ond erbyn heddyw ewyllys yr Arglwydd oedd cael y ddau adref i'r Gymanfa Fawr. Y fath newidiad mewn can lleied o amser! Mae y ddaear i ni ein dau (efe a'i briod) yn llawer iawn gwacach, a'r nefoedd yn llawer cyfoethocach wedi mynediad dau ŵr mor anwyl a serchog yno. Yr Arglwydd a fyddo eto gyda chwi yn gwneyd pob bwlch i fyny.

—————

XVIII.

Y Parch. John Williams, Aberystwyth

Yr wyf yn cael ychydig hamdden yn awr i ysgrifenu atoch ar ol colli eich anwylaf briod, a gallaf ddweyd yn onest fy hen gyfaill anwyl inau, yn wir, un o'r rhai anwylaf a feddwn ar lawr y ddaear hon. Yn mhellderoedd America, digwyddodd i'r Newyddiadur Cymreig, "y Drych," ddyfod i'm llaw, ac