Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XI.

PENOD OLAF EI FYWYD.

CYNWYSIAD.—Symud i wlad well— Tori yr Enaint with adael y byd — Ei sylwadau pan y cyrhaeddodd 80 oed —Dyddiau ei bererindod yn tynu at y terfyn — Y Cyfarfod Misol olaf — Y Cyfarfod Cyhoeddus olaf yn Mhennal — Thomas Roberts, hen ddrifer John Elias — Yn ewyllysio gweled John Elias yn gyntaf wedi mynd i'r nefoedd — Mwy o'i gyfeillion yn y nefoedd —Myfyrdodau am grefydd—Clause yn y Weithred—Dyn wedi ei greu ar gyfer byd arall—Capel haiarn Henry Rees—Marwolaeth sydyn Dr. Hughes—Dafydd Rolant yn myn'd i'r nefoedd yn ei gwmni—Dim eisiau newid y doctor—Byw yr un fath pe cawsai ail gynyg—Y bachgen yn foddlon ac anfoddlon iddo fyned i'r nefoedd—Y Penteulu yn holwyddori y plant—Y dyn goreu fu yn Mhennal erioed—Yn agoshau i'r Orphwysfa—Ei angladd—Pob peth yn dda.


 EDI adrodd hanes taith ei bererindod trwy y byd, y gorchwyl diweddaf ydyw rhoddi gwybodaeth i'r rhai a ddarllenant y tudalenau hyn, am y modd y croesodd i'r wlad sydd well. Er mor dda fu y byd hwn iddo, ac er cystled y darfu iddo ei fwynhau, i wlad well yr aeth, Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, a phan y derbyniodd notice to quit—rhybudd i ymadael o'r daearol dy, bu hyny yn unig er rhoddi mantais iddo gael promotion o dan yr un meistr—er ei gymhwyso yn hwylusach i symud i'r "ty nid o waith llaw, trag-