Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erioed yn fwy nag ef: Iesu Grist yn gyntaf; yr Apostol Paul yn ail, John Elias yn drydydd. Yn diwedd ei oes symudodd Thomas Roberts i fyw at ei ferch i Bennal, ac yma, fel y dywedwyd, y bu farw. Yn ystod ei afiechyd olaf, diwrnod neu ddau cyn ei farw, gofynodd gweinidog yr eglwys iddo, "Pwy leiciech chwi weled, Thomas Roberts, gyntaf wedi myned i'r nefoedd ? " " Mr. Elias," atebai, dan godi ei ddwylaw i fyny, ac ychwanegai, " 'Rwyf yn meddwl y byddwn yn fwy hyf arno ef nag ar yr Arglwydd Iesu. " " Yr ydwyf," ebe Dafydd Rolant, pan yn ei wely y pryd hwn, "wedi meddwl hylltod am ddywediad yr hen Domos—y mae llawer iawn ynddo."

Dywedodd aml i waith yn ei saldra, " Er fod ganddo lawer o gyfeillion anwyl iawn ar y ddaear, fod nifer mwy erbyn hyn o'i wir gyfeillion yn y nefoedd. "

Yr oedd ei feddwl, yn ystod y tair wythnos olaf, yn llawn iawn o fyfyrdodau am bethau crefydd. Yr oedd yr un fath ag yn ei fywyd, crefydd yn uwchaf, a'i bertrwydd digrifol yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Yr oedd yn myfyrio yn wastadol am grefydd a'i phethau mawr, a chyffelybiaethau lawer yn meddianu ei ysbryd. Wedi bod yn myfyrio un noswaith am drefn fawr yr iachawdwriaeth, dywedal ei fod yn ei gweled hi yn ei ddychymyg fel trên mawr a hir. "Gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd," &c. " Yn yr Hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed Ef. " Dyna y first class. Mae y second class yn dyfod ar ol y pethau yna, —"A'u gweithred oedd sydd yn eu canlyn hwynt." Ddiwrnod arall, pan yr edrychai braidd yn brudd, cymhellid ef i bwyso ar yr addewidion. "Ydynt," meddai, "mae yr addewidion yn ddigon sicr. Dyna un peth sydd yn eu gwneyd yn sicr ydyw y Cyfamod; a'r llŵ hefyd— y Duw Mawr wedi myned ar ei lŵ. 'Doedd dim eisiau y llŵ, yr oedd y cyfamod yn ddigon. Rhyw clause a roddodd y Duw Mawr yn y weithred oedd y llŵ. Ar gyfer y diafol y gwnaeth y clause hwn;