Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhag i'r diafol geisio myned i fewn i chwalu y weithred, fe roddodd y clause yma i mewn ynddi." "Y breichiau tragwyddol odditanodd," hefyd. "'Rwy'n cofio'n dda," meddai, " glywed Evan Harries yn dweyd fel hyn,—Dyma i chwi freichiau, fe ddaw y rhai'n a'u cowlad adref i'r bywyd yn ddiogel.'"

"Os nad oes byd arall yn bod," meddai, ddiwrnod arall, "y mae yn edrych yn beth dibwrpas iawn i ddynion ddyfod i'r byd hwn. Welwch chwi," meddai, gan edrych o'i eistedd yn ei wely trwy y ffenestr ar y plant yn chware yn y pentref, "y plant acw yn chware—yn ymrwyfo—yn gwäu trwy eu gilydd trwy gydol y dydd. Rhoddi corff ac enaid i'r rhai acw, a'r cwbl yn darfod yn y byd hwn! Nis gall hyny ddim bod. Creu dynion i fyw yn y byd hwn am rhyw ddeugain mlynedd ar gyfartaledd, choelia i byth y buasai y Creawdwr mawr yn gwneyd hyn, heb fod rhyw ddiben pellach o'u creu. Paham y creaist holl blant dynion yn ofer?' Mi glywais Henry Rees, yn pregethu ar y geiriau yna. 'Rwy'n cofio'n dda fod ganddo gyffelybiaeth yn ei bregeth am Gapel Haiarn. Nid wyf yn gwybod pa un a ydyw y gymhariaeth i lawr yn y bregeth argraffedig a'i peidio. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu yn y wlad yma ar gyfer rhyw wlad dramor, i'w ddefnyddio yno. Ar ol ei gwbl orphen rhoddwyd ef wrth ei gilydd, ac yr oedd yn edrych yn brydferth a hardd. Yn union deg, tynwyd ef oddi wrth ei gilydd bob yn ddarn, a synai pawb ei fod yn waith mor ofer, wedi gwneuthur y capel mor hardd, a'i dynu i lawr mor fuan! Ond yr oedd y dynion a'i hadeiladodd yn deall yn dda, ei fod i'w symud i wlad dramor, ac i'w roi wrth ei gilydd a'i gyfodi i fyny yno, ac i aros i fyny, yn lle i addoli Duw ynddo am flynyddau lawer. Yn y goleuni hwnw nid aeth y capel ddim yn ofer."

Dywedai y pethau uchod yn ei wely yn ystod y deunaw niwrnod olaf. Ac oddeutu canol y tymor hwn y cymerwyd y Parchedig Dr. Hughes, Caernarfon, i'r nefoedd gyda'r fath