Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galwyd ar Dr. Rowlands, Towyn, i eistedd mewn ymgynghoriad gyda Dr. Mathews, Machynlleth. Ar ol hyn, ymwelodd Mr. Rees Parry, Esgairweddan, un o'i gyd-flaenoriaid ag ef, wrth yr hwn y dywedai, "Y mae yma newid doctoriaid wedi bod, a newid meddyginiaeth hefyd. Ond nid wyf fi yn hidio fawr am hyny, mae gen i feddyginiaeth nad oes dim eisieu ei newid hi, a Doctor na fethodd o a gwella neb erioed."

Dywedai wrth un o'i gyfeillion un diwrnod, " Pe cawsai gynyg ar ail fyw ei oes yn y byd, mai yr un fath у buasai yn treulio ei fywyd."

Yn ystod ei afiechyd deuai llu mawr i edrych amdano, o bell ac o agos. Un diwrnod daeth bachgen bychan, yr hwn a fynychai y capel yn bur gyson—John Daniel Davies—at ei wely, ac meddai wrth y bachgen, "Wyt ti yn foddlon i mi gael myn'd i'r nefoedd, John Daniel?"' "Ydwyf—nac ydwyf." Yr oedd y bachgen yn ddigon boddlon, ond gyda iddo ddweyd y gair, tywynodd y syniad i'w feddwl ei fod am fyned i'r nefoedd y pryd hwnw, ac i hyny nid oedd yn foddlawn.

Yr oedd penteulu yn y pentref, yn fuan ar ol ei farwolaeth, yn holwyddori ei blant ei hun yn y ty gartref. Ymhlith y cwestiynau a ofynid, yr oedd yr un a ganlyn, "Pwy sydd yn y nefoedd?" Atebai y plant yn rhwydd—"Iesu Grist." "Nage," ebe un bychan o honynt, "nage, Dafydd Rolant sydd yno."

Ryw Sabboth y flwyddyn ddilynol i'w farwolaeth, yr oedd pregethwr oddirhwng y Ddwy Afon, yn Sir Aberteifi, ac mewn ymddiddan a hen Gristion cywir, yr hwn a adwaenai ardal Pennal er's degau o flynyddau, meddai yr hen Gristion, "Fe gladdsoch yr hen bererin!" "Do," oedd yr ateb. " Wel, fe gladdsoch y dyn goreu fu yn Mhennal erioed, 'does dim doubt am hyny."

Bu pob peth ynglŷn a'i fynediad trosodd i wlad yr addewid yn y modd mwyaf tawel a diofn. Dywedai wrth berthynas a ddaethai i edrych am dano, o fewn llai nag awr i'r munydau